Bu farw’r canwr, actor ac ymgyrchydd enwog Harry Belafonte yn 96 oed.

Ef oedd seren pop Caribïaidd-Americanaidd mwyaf llwyddiannus ei oes. Aeth i frig y siartiau yn y 1950au gyda’i fersiynau o ganeuon gwerin mento Jamaicaidd. Rhai o’i ganeuon enwocaf oedd ‘The Banana Boat Song’ a ‘Mary’s Boy Child’, ac fe actiodd mewn sawl ffilm fel Carmen Jones (1954), Island in the Sun (1957) ac Odds Against Tomorrow (1959).

Ond roedd yn arwr hefyd am ei waith ymgyrchu diflino dros hawliau sifil yn America. Roedd yn gyfaill i’r Dr Martin Luther King, un o gewri’r ymgyrch yn yr y 1950au a’r 1960au a gafodd ei lofruddio yn 1968. Bu’n Llysgennad Ewyllys Da UNICEF o 1987 hyd at ei farwolaeth ac roedd yn barod iawn i ddweud ei farn ar wleidyddiaeth.

Talodd Bernice King, merch Martin Luther King, deyrnged iddo ar Twitter, gan ddweud fod Harry Belafonte wedi bod yn garedig iawn i’w theulu ar ôl marw ei thad. Fe dalodd am rywun i’w gwarchod nhw’r plant hyd yn oed. Rhannodd lun ohono yn ei ddagrau yng ngwasanaeth coffa ei thad.

Cymru wedi creu argraff arno

Cefais y fraint o wrando ar Harry Belafonte yn siarad am ei fywyd yng ngŵyl lenyddol y Gelli yn 2012, adeg cyhoeddi ei hunangofiant Sing Your Song.

Cyn y sgwrs, y tu allan i’r babell, roedd Cymraes o’r de ar bigau’r drain i weld ei harwr. Dywedodd wrtha i ei bod hi’n ei addoli ers ei bod hi’n ferch ifanc, ac wedi dod â’i hen recordiau o’r 1960au iddo’u llofnodi. “He’s gorgeous,” meddai, â’i llygaid yn disgleirio pe bai hi’n ferch yn ei harddegau.

Roedd y babell o dan ei sang; nifer fawr wedi eu denu yno oherwydd ei fod yn enw mawr. Ond cyn pen dim, roedd y dorf gyfan wedi ei cyfareddu gan hynawsedd y dyn deallus yma. Siaradodd am aberth a daliadau, a rhannodd straeon personol am Dr Luther King a’i ddylanwad mawr arno.

Fe wyddem i gyd cyn prynu tocyn fod Harry Belafonte yn enwog, ac yn ddawnus. Fe wyddem ei fod wedi cael gyrfa ddisglair. Roedd pawb yn gyfarwydd â’r gytgan fachog ‘day-o’ y ‘Banana Boat Song’. Disgwyliem orig ddifyr. Ond doedden ni ddim wedi disgwyl cael ein llorio ganddo.

Daethom i ’nabod dyn egwyddorol, diymhongar a chyfathrebwr iach a di-lol. Dyn a oedd yn amlwg yn danbaid dros ei ddaliadau a hawliau ei bobol, a oedd yn digwydd bod yn ganwr pop golygus.

Yn bur aml mewn gŵyl fel yna, mi gewch eich siomi o gwrdd â’ch arwyr. Ond tyfodd Belafonte yn gawr, yn eicon, i ni yn ystod yr orig fer honno. Dyma’r sesiwn orau i mi ei gweld yn yr ŵyl erioed, ac mae hi’n ŵyl dw i’n ei mynychu ers dros 20 mlynedd.

Daeth cyfle wedyn i’w gyfarfod a gofyn am ei lofnod wedi’r sesiwn – rhaid oedd prynu’r llyfr. Dweud wrtho: Croeso i Gymru. A dyma fe’n ein syfrdanu â’i ateb. Edrychodd i fyw fy llygaid a dweud gyda chynnwrf yn ei lais: “Wales means a lot to me.”

Esboniodd ei fod wedi dysgu llawer am Gymru a’i hanes diolch i’w ffrind agos, ei fentor a’i gyd-ymgyrchydd, y canwr a’r actor Paul Robeson – cyfaill glowyr de Cymru. Roedd Robeson wedi uniaethu gyda brwydr glowyr y de yn erbyn gormes yn y 1930au. Daeth Belafonte felly yn ffrind i Gymru.

Yn ôl Wikipedia, dywedodd un tro: “Paul Robeson had been my first great formative influence; you might say he gave me my backbone. Martin King was the second; he nourished my soul.”

Dyn da. Coffa da amdano, a chofiwch wrando ar eich copi o’r albwm Calypso.