Mae cyfres o gerfluniau’n dathlu’r werin bobol adeiladodd gastell Caernarfon wedi cael ei dadorchuddio.
Mae naw cerflun o gwmpas y safle ar y thema ‘y dwylo a adeiladodd y Castell’, sef dwylo’r werin bobol.
Ar ôl tair blynedd o waith, mae’r prosiect i wella prif borthdy’r castell wedi’i gwblhau.
Roedd digwyddiad heddiw (dydd Iau, Ebrill 27) i ddathlu cwblhau’r gwaith, gyda Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, yng Nghastell Caernarfon.
Mae’r buddsoddiad wedi arwain at osod dec ar y to a lloriau newydd yn nhŵr y porthdy, gan ganiatáu mynediad i rannau o’r castell fu’n anhygyrch ers canrifoedd.
Mae hefyd wedi golygu gosod lifft sy’n caniatáu mynediad i bawb i’r lefelau uchaf.
Y gobaith yw y bydd y cyfraniad gwerthfawr mae’r castell yn ei wneud tuag at yr economi leol yn cryfhau.
“Rydym yn sefyll mewn ardal does neb wedi’i gweld yn agos am gannoedd o flynyddoedd, i fod yn onest,” meddai David Rees, Rheolwr Dehongli Cadw, wrth golwg360.
“Mae o’n bwysig oherwydd ei fod yn helpu pawb i weld y castell yn wahanol.”
‘Y dwylo adeiladodd y castell’
Yn draddodiadol, mae pobol yn cofio’r bobol sydd â statws brenhinol wrth feddwl am gestyll.
Ond yr hyn sy’n gwneud y cerfluniau o gwmpas y castell yn wreiddiol a gwahanol yw eu bod yn dathlu’r werin bobol adeiladodd y castell.
“Mae tua naw cerflun o gwmpas y safle sydd yn thema ‘dwylo’, dwylo oedd yn adeiladu’r castell,” meddai David Rees.
“Mae hwnna’n ran o hanes sydd ddim yn cael ei siarad amdano llawer.
“Mae’r rhan fwyaf o safleoedd hanesyddol yn siarad am frenhinoedd, tywysogion, pobol ‘bwysig’ o ran statws, ond dydy pobol sydd wedi creu’r castell dros y blynyddoedd ddim yn cael yr un sylw gan amlaf.
“Gan greu’r gwahanol gerfluniau yma, mae hwnna’n rhoi sylw ar eu gwaith nhw ond hefyd y sgiliau roedden nhw wedi’u defnyddio i adeiladu’r castell a chreu gwahanol ddeunyddiau.
“Yr un sgiliau sy’n cael ei defnyddio heddiw.
“Mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cerfluniau.”
Taith sain
Nid yn unig mae’r castell wedi cael ei ddatblygu, yn fwy hygyrch ac efo cerfluniau, ond mae taith sain ar gael bellach hefyd.
Trwy ddyfais wrth gerdded o gwmpas y castell, gall pobol glywed am hanes y castell a hanes Cymru.
“Mae lifft gyda ni sy’n gyfleuster newydd ac mae toiledau hygyrch gyda ni,” meddai David Rees.
“Mae’r castell yn fwy hygyrch i bawb nawr.
“Mae pobol mewn cadair olwyn neu gyda phram, neu bobol oedd methu dringo’r grisiau flynyddoedd yn ôl, yn gallu cael yr un mynediad â phawb arall.
“Mae caffi newydd, felly mae pobol yn gallu stopio i gael paned a brechdan.
“Mae mynediad i gadair olwyn tu allan i’r prif borthdy.
“Mae pawb yn gallu dod a mwynhau eu hymweliad, felly.
“Yn ogystal â’r gwaith cerfluniau rydych yn gallu’i weld, yn ogystal â’r caffi a’r lifft, mae taith sain ac mae hwnna’n 40 o stops gwahanol o gwmpas y castell i gyd.
“Gall pobol brynu dyfais pan maen nhw’n dod mewn, a gwrando ar hwnna i gael esboniad mwy dwfn o hanes y safle a hanes Cymu.”
Economi leol
Nid yn unig mae pobol yn dysgu am hanes drwy ymweld â’r castell, ond maen nhw hefyd yn cryfhau’r economi leol, ac yn rhoi arian ychwanegol i wneud gwaith cadwraeth dan ofal Cadw.
“Roedd y castell, cyn y lansiad, yn denu tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn,” meddai David Rees.
“Gobeithio y bydd hynny yn cynyddu ar ôl y lansiad yma.
“Gobeithio y daw mwy o bobol i weld y safle a dod i ddysgu am hanes Cymru a hanes castell Caernarfon.
“Gobeithio y bydd pobol yn mynd allan a gwario arian yn y dref.
“Hefyd, mae’r arian sy’n cael ei wario yma yn helpu i wneud gwaith cadwraeth i bob safle sydd dan Cadw; mae 131 safle.”