Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn gobeithio codi miloedd o bunnoedd er mwyn prynu cartref Eileen a Trefor Beasley yn Llangennech, a’i droi’n ganolfan dreftadaeth.
Am wyth mlynedd, fe wrthododd Trefor ac Eileen Beasley ymateb i lythyron treth Saesneg, gan fynnu bod un Cymraeg yn cyrraedd eu bwthyn yn Yr Allt, Llangennech.
Fe gollon nhw eu heiddo i’r beiliaid ar ôl bod gerbron y llys ddwsin o weithiau a manteisio ar y cyfle i fynnu gwrandawiad llys trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe barhaodd ymgyrch y Beasleys am wyth mlynedd tan iddyn nhw dderbyn llythyr treth dwyieithog yn 1960.
Mae eu safiad yn cael ei ystyried yn fan cychwyn ar ddegawdau o ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg a’i statws.
Erbyn hyn, mae’r tŷ wedi dirywio ar ôl sefyll yn wag ers dros ddegawd, ac mae’r fenter yn teimlo mai “nawr yw’r amser i achub y safle hanesyddol ar gyfer y dyfodol.”
Y bwriad yw codi arian trwy wefan GoFundMe er mwyn creu canolfan sy’n dathlu cyfraniad Trefor ac Eileen Beasley tuag at barhad yr iaith Gymraeg, a chreu canolfan i’r gymuned Gymraeg.
Sesiynau hanes yn sbarduno’r syniad
Targed cychwynnol Menter Cwm Gwendraeth Elli yw codi £30,000 er mwyn gallu bwrw ymlaen â chynlluniau i brynu’r safle, sydd ar werth am £140,000 ar hyn o bryd.
Daeth y syniad yn wreiddiol drwy sesiynau hanes Llanelli i blant ysgol gynradd.
“Mae saith cymeriad o hanes Llanelli yn y sesiynau, ond un ohonyn nhw yw Eileen Beasley, ac wrth gwrs, ei gŵr Trefor,” meddai John Derek Rees, Swyddog Datblygu Tref Llanelli, wrth golwg360.
“Wrth i ni wneud y sesiynau yma, doedd plant Llanelli ddim rili wedi clywed amdanyn nhw [y Beasleys], ond wnaethon nhw gymryd at y stori, ac wedi dysgu lot.
“Yn sydyn, wnaethon ni sylweddoli bod eu tŷ nhw yn Llangennech wedi dod ar y farchnad.
“Mae e mewn tipyn o stad ac mae’n agosáu at fod yn adfael, i fod yn onest.
“Wnaethon ni benderfynu – rydyn ni fel menter angen gofod lawr yn Llangennech ’ta beth – ond hefyd wnaethon ni benderfynu bod eisiau achub y tŷ a dathlu’r hanes ddigwyddodd yn y tŷ.
“Y gobaith yw creu canolfan dreftadaeth ble mae plant ysgol yn gallu dod, lle mae dysgwyr yn gallu dod, lle mae’r [bobol] Gymraeg a’r di-Gymraeg yn gallu dod a chofio’r hanes.
“Ond hefyd, bod o’n ganolfan iaith sy’n edrych i’r dyfodol.”
Pwysig eu cofio a’u hanrhydeddu
“Fi’n credu eu bod nhw’n arwyr,” meddai wedyn.
“Un gair fi’n defnyddio o hyd gyda nhw yw ‘dyled’.
“I ni, nawr, sydd yn elwa gymaint o’r Gymraeg a statws y Gymraeg, mae ein dyled ni mor fawr iddyn nhw.
“Rydyn ni’n cymryd yn ganiataol beth oedd rhaid iddyn nhw frwydro amdano.
“Wnaethon nhw aberthu gymaint.
“Aeth beiliaid â phopeth o’u tŷ nhw, ac ar un pwynt wnaethon nhw fynd â’r carpedi, hyd yn oed, tra roedden nhw’n gwrthod talu’r bil tra roedd y llythyr yn Saesneg.
“Mae’n bwysig eu bod nhw’n cael eu cofio a’u hanrhydeddu.”
Cynlluniau’r ganolfan
Ar hyn o bryd, mae’r fenter yn dal i drafod beth yn union fyddai’r cynllun ar gyfer y ganolfan, ond mae digon o syniadau.
“Yn sicr, rydyn ni moyn iddo fe fod yn rywle ble mae ysgolion yn gallu dod a chael y profiad o weld y tŷ fel oedd e efallai, a chael actores i actio Eileen yn eu gwahodd nhw mewn i’r tŷ.
“Hefyd, bydden i yn licio iddo fe fod yn rywle ble mae pobol yn dod i ddysgu Cymraeg.
“Fi’n credu y byddai hwnna’n siwtio’n berffaith.
“A rhywle ble fyddai mudiadau Cymraeg yn gallu defnyddio.
“Byddai’n ganolfan i’r gymuned hefyd, ac rydyn ni wedi cael deuddeg llythyr o gefnogaeth gan aelodau’r gymuned sy’n dangos eu bod nhw eisiau fe.”