Mae’r bwlch cyflog rhwng nifer y bobol ag anabledd a phobol heb anableddau yng Nghymru wedi cynyddu, yn ôl ymchwil gan y Senedd sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (Ebrill 27).

Yn seiliedig ar ffigurau swyddogol yr Adran Gwaith a Phensiynau, roedd bwlch o 32.3% yng nghyfradd gyflogaeth pobol ag anableddau a phobol heb anableddau yng Nghymru y llynedd.

31.8% oedd y ffigwr rhwng 2019 a 2020.

Golyga hyn fod y bwlch cyflogaeth yng Nghymru yn uwch na’r Alban (31.6%) a’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd (29.8%).

Blaenau Gwent (46.8%) a Chastell-nedd Port Talbot (44.5%) oedd yr ardaloedd â’r bylchau mwyaf yng Nghymru.

Golyga hyn fod y ddwy ardal ymysg yr 20% o fylchau cyflogaeth anabledd uchaf yn y Deyrnas Unedig.

‘Siomedig iawn’

“Mae’r ffaith bod y bwlch cyflogaeth anabledd wedi ehangu yng Nghymru yn siomedig iawn,” meddai Altaf Hussain, llefarydd cydraddoldeb y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wrth golwg360.

“Dylem fod yn creu Cymru fwy cyfartal, nid mynd am yn ôl.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i archwilio opsiynau i ddileu rhwystrau i gyflogaeth.

“Fodd bynnag, fel cam cyntaf, mae angen iddynt ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobol Anabl ar frys yng nghyfraith Cymru a chyhoeddi’r cynllun gweithredu anabledd hir-ddisgwyliedig.”

Mwy tebygol o gael gwaith rhan amser

Yn ôl y grŵp ymgyrchu Disability Rights UK, cymdeithas sydd ar fai am yr anawsterau mae pobol anabl yn eu hwynebu wrth chwilio am waith.

“Nid pobol anabl eu hunain sy’n rhwystro mwy o bobol anabl rhag cael gwaith, ond cymdeithas – gan gynnwys trafnidiaeth anhygyrch, agweddau cyflogwyr gwael, cyfleoedd gweithio hyblyg annigonol, diffyg mynediad at gymorth gwaith a methiant i wneud addasiadau rhesymol,” meddai llefarydd.

Tra bod 71% o’r bobol heb anableddau sydd mewn cyflogaeth yng Nghymru yn gweithio’n llawn amser, 59% yw’r ffigwr ar gyfer pobol ag anableddau mewn cyflogaeth.

Golyga hyn bod pobol ag anableddau yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth rhan amser (41%), o gymharu â’r gyfradd o 29% ar gyfer pobol heb anableddau.

Er hynny, llwyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyrraedd eu nod o filiwn yn fwy o bobol ag anableddau mewn gwaith y llynedd.

Fodd bynnag, cynyddodd nifer y bobol heb anableddau oedd mewn cyflogaeth ar y cyd â hynny, gan olygu na chafodd y bwlch ei gau.

‘Ymrwymo i gau’r bwlch’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw am ymrwymo i gau’r bwlch hwn trwy ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobol Anabl yng nghyfraith Cymru.

Mae’r Confensiwn yn cydnabod hawliau pobol ag anableddau i weithio ar yr un sail â phobol heb anableddau.

“Mae ein cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i gynyddu nifer y bobl anabl mewn gwaith,” meddai llefarydd.

“Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod gweithleoedd yn amgylcheddau cynhwysol a chefnogol.

“Fel rhan o’r gwaith hwn, mae gennym rwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobol Anabl i helpu gweithleoedd i fod yn fwy cynhwysol a chefnogi recriwtio a chadw pobol anabl yn well.

“Mae’r Hyrwyddwyr wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau a busnesau ac wedi gweithio’n agos gyda gwasanaeth Busnes Cymru, gan ddarparu cyngor ac arweiniad i helpu busnesau i recriwtio gweithlu mwy amrywiol, ac ymgorffori’r model cymdeithasol anabledd ledled Cymru.

“Mae’r Tasglu Hawliau Anabledd yn dod â phobol sydd â phrofiad o fyw, swyddogion Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol ynghyd i nodi’r materion a’r rhwystrau sy’n effeithio ar fywydau llawer o bobol anabl.

“Mae yna weithgor sy’n ymroddedig i gyflogaeth ac incwm, a bydd argymhellion y grŵp hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Hawliau Anabledd yn 2024.”