Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, wedi cyhoeddi cronfa gwerth £11m i helpu i atal dirywiad bywyd gwyllt Cymru, wrth iddi gwrdd â gwyddonwyr sy’n gweithio i achub yr eog gwyllt.

Yn ôl arbenigwyr, gallai’r pysgodyn hynafol ddiflannu o afonydd Cymru erbyn 2030.

Enwodd Julie James naw prosiect mawr a 17 prosiect canolig newydd fydd yn elwa ar y rownd ddiweddaraf o gyllid Rhwydweithiau Natur, er mwyn cryfhau gwytnwch moroedd, coedwigoedd a glaswelltiroedd sy’n diflannu yng Nghymru.

Mae’r rhain yn gartref i rai o rywogaethau mwyaf eiconig Cymru, gan gynnwys y gylfinir, y dyfrgi a’r dolffin trwyn potel.

Dros y canrifoedd, mae rhwystrau ffisegol fel ffyrdd, gwaith datblygu a thir fferm wedi gadael bywyd gwyllt a phlanhigion yn sownd ar ‘ynysoedd’ di-gysylltiedig, gan rwystro llwybrau mudo ac felly lleihau’r gronfa enynnau ac iechyd eu poblogaethau.

Mae’r cynefinoedd darniog hyn wedi golygu bod eogiaid a rhywogaethau eraill yn ymladd i oroesi.

Rhaglen Rhwydweithiau Natur

Wrth ymateb i’r sefyllfa, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Rhaglen Rhwydweithiau Natur i adeiladu ‘coridorau bywyd gwyllt’ ledled Cymru.

Cafodd pobol leol eu denu i helpu gyda’r ymdrechion, ac roedd galw am ddull gweithredu Tîm Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng natur fyd-eang.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae prosiect ‘Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru’, wedi elwa ar fwy na £600k o rownd gynta’r Gronfa Rhwydwaith Natur, oedd wedi dyfarnu £7m i 29 o brosiectau.

Ei nod yw cael gwared ar rwystrau ffisegol sydd wedi rhwystro llwybrau mudo ar gyfer eogiaid gwyllt a rhywogaethau eraill yn afonydd Cleddau Wen, Cleddau Ddu, Wysg, Tywi, a Theifi.

Dim ond unwaith mewn oes mae eog gwyllt yn dychwelyd i’r afon lle cawson nhw eu geni i silio.

Er mwyn gwneud hynny, maen nhw’n gwneud taith epig o’r moroedd i nofio yn erbyn y cerrynt wrth iddyn nhw deithio i fyny’r afon.

Ond erbyn hyn, mae’r pysgodyn hynafol hwn sy’n ymddangos yn aml yn llên gwerin Cymru, yn wynebu cwlfertau, argaeau a choredau sy’n eu trapio mewn ardaloedd is o’r afon.

Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

“Rydym i gyd am weld Cymru yr ydym yn falch o’i throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol,” meddai Julie James.

“Ar hyn o bryd, maen nhw’n wynebu byd go wahanol os nad ydyn ni’n camu i’r adwy ac yn gweithredu’n gyflym mewn ymdrech Tîm Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Tra bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i warchod eogiaid gwyllt gwerthfawr, bydd afonydd iach, sy’n llifo’n rhydd, o fudd i les corfforol a meddyliol pawb.

“Mae poblogaeth lewyrchus o eogiaid yn dyst i afon lân ac ocsigenedig lle gall rhywogaethau eraill ffynnu ac y gall twristiaeth ffynnu.

“P’un a ydych chi’n hoffi ymdrochi neu roi eich traed yn y dŵr, yn gwylio adar, yn bysgotwr neu’n mynd ar geufad, mae afon iach yn golygu profiad cefn gwlad sy’n fwy pleserus.”

Pysgod mudol “yn rhan o ddiwylliant Cymru”

“Mae pobol yng Nghymru wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau presenoldeb pysgod mudol eiconig fel yr eog, y sewin, llysywen bendoll y môr, llysywen Ewrop neu’r herlyn am filenia,” meddai’r Athro Carlos Garcia de Leaniz, cydlynydd prosiect Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru.

“Mae’r rhain yn rhan o ddiwylliant Cymru ac yn rhan annatod o dreftadaeth a chyfalaf naturiol Cymru.

“Ond mae gan y Deyrnas Unedig hefyd rai o’r afonydd mwyaf darniog, llygredig, a mwyaf brwnt yn Ewrop, ac mae dyfodol ein pysgod mudol cynhenid bellach dan fygythiad difrifol o ddifodiant.

“Mae adroddiad diweddar yn nodi os nad oes dim yn cael ei wneud y gall eogiaid ddiflannu o’r rhan fwyaf o afonydd Cymru mewn cyn lleied ag 20 mlynedd neu 30 mlynedd.

“Ni allwn adael i hynny ddigwydd.

“Bydd ein prosiect [Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru] yn adfer 141 km o gynefin darniog afonydd.

“Mae afonydd iach yn afonydd sy’n llifo’n rhydd, a’r gobaith yw y bydd y prosiect hwn a mentrau tebyg yn gwneud i’n hafonydd lifo’n rhydd eto ac yn helpu i wrthdroi dirywiad yr eog.”

‘Uchelgais’

“Mae’r amrywiaeth drawiadol hon o brosiectau yn dangos uchelgais y Gronfa Rhwydweithiau Natur a maint yr her sy’n ein hwynebu ni i gyd,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Mae’n flaenoriaeth i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru i warchod yr amgylchedd.

“Dyma pam rydym yn cefnogi mentrau sy’n ein helpu i gyrraedd ein targedau adfer natur cenedlaethol a lliniaru effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth.

“Drwy bartneriaethau fel hyn, rydym yn buddsoddi mewn gwaith sy’n helpu i atal a gwyrdroi dirywiad a cholli cynefinoedd a rhywogaethau ac yn caniatáu i bobol gysylltu â’n treftadaeth naturiol unigryw.”

Mae’r Rhaglen Rhwydwaith Natur yn allweddol wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni nod 30 erbyn 30 y Cenhedloedd Unedig, sy’n ceisio gwarchod a rheoli 30% o amgylchedd morol y blaned yn effeithiol a 30% o amgylchedd tir y blaned erbyn 2030.

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhaglen sy’n cael ei darparu mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, sy’n cefnogi adferiad natur gan fynd ati i annog ymgysylltu â’r gymuned.