Daeth dros gant o bobol ifanc o fwy nag ugain o ysgolion Gwyddeleg ynghyd yr wythnos hon i drafod yr heriau sy’n wynebu siaradwyr ifainc.

Cafodd y gynhadledd Ard Fheis na nÓg ei chynnal yn Gaoth Dobhair (Gweedore), ac roedd y bobol ifanc yn dod o ysgolion a cholegau Gwyddeleg yn Gaillimh (Galway), Sligeach (Sligo), Baile Átha Cliath (Dulyn), Dún na nGall (Donegal), Béal Feirste (Belfast), Maigh Eo (Mayo) and Muineachán (Monaghan).

“Mae’r Ard-Fheis yn gyfle i fyfyrwyr ysgolion uwchradd leisio’u barn ac i gymryd rhan mewn sgyrsiau cenedlaethol,” meddai Paula Melvin, llywydd Conradh na Gaeilge.

“Dangosodd y rheiny oedd yn bresennol eu gallu i weithredu fel arweinwyr a gweithredwyr dros yr iaith Wyddeleg wrth ddysgu am gynllunio iaith ac ateb cwestiynau am y dyfodol.

“Roedd y myfyrwyr wedi gallu profi dull Ard-Fheis Conradh na Gaeilge ac fe gawson nhw’r cyfle i bleidleisio, dadlau ac ychwanegu eu lleisiau at drafodaethau ynghylch yr iaith Wyddeleg.

“Nod y digwyddiad oedd rhoi’r cyfle i genhedlaeth iau y Gaeltacht a phobol ifanc eraill sy’n medru’r iaith Wyddeleg i drafod ymhlith ei gilydd y materion sy’n effeithio arnyn nhw.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Údarás na Gaeltachta, Comhairle Contae Dhún na nGall ac Aelodau’r Dáil [y Senedd] a’r Seneddwyr oedd gyda ni ar gyfer Ard Fheis na nÓg 2023.”

“Balch iawn” o’r iaith fyw

“Rydyn ni’n falch iawn fod yr iaith Wyddeleg yn parhau i fod y brif iaith sy’n cael ei siarad yn y gymuned,” meddai Dónall Ó Cnáimhsí, Swyddog Cynllunio Iaith Conradh na Gaeilge.

“Mae’n ddarn gwerthfawr o’n treftadaeth yma, oedd yn ysbrydoliaeth ar gyfer pobol megis Máire Ní Bhraonáin a Clannad, Mairead Ní Mhaonaigh, Altan ac Enya, sydd yn adnabyddus ar draws y byd.

“Mae’r iaith Wyddeleg wedi cael ei throslgwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yma dros gannoedd a miloedd o flynyddoedd, a’n rôl ni yw ei chadw hi ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

“Ní neart go cur le chéile! [Mewn undod mae nerth].”