A hithau’n Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau, mae Cymru’n un o bymtheg o wledydd sy’n arwain y ffordd wrth godi ymwybyddiaeth o arwahanrwydd a phontio’r cenedlaethau.

O oleuo’r Big Pit a’r Sky Tower yn y Rhyl yn binc i ddigwyddiadau ar-lein gyda gwahanol wledydd, i ddigwyddiadau ar lawr gwlad, mae amryw o weithgareddau drwy gydol yr wythnos.

Mewn cyfnod pan fo arwahanrwydd rhwng y cenedlaethau yn parhau i fod yn amlwg yn dilyn y cyfnodau clo, mae’n gyfle i ddathlu’r hyn sydd eisoes yn digwydd yma yng Nghymru, ond hefyd i annog ac ysbrydoli pobol o bob oed i ailafael mewn cynlluniau sy’n dod â phobol o bob oed at ei gilydd.

Bwriad Pontio’r Cenedlaethau yw creu cysylltiadau newydd rhwng plant a phobol o bob oedran, gan gynyddu parch a dealltwriaeth rhwng y cenedlaethau gan arwain at greu cymunedau cryfach.

Heddiw (dydd Iau, Ebrill 27), mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ymuno mewn ‘thunder clap’ ar y we i dynnu sylw at yr holl waith sydd yn digwydd ar draws y wlad.

Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy’r wythnos, gan gynnwys digwyddiad ar y cyd â phum gwlad a hefyd ddydd Gwener wrth lansio fideos ar y cyd â Mecsico.

Llai o bontio dros y cyfnodau clo

Gyda digwyddiadau megis Brexit a Covid-19 yn bynciau llosg sydd yn hollti barn, mae hyn hefyd i’w weld yn y rhwyg cymdeithasol sydd ar hyn o bryd.

Bwriad pontio’r cenedlaethau yw anelu i ailadeiladu perthnasau cymdeithasol a chryfhau’r gwytnwch yn ein cymunedau, gan gynyddu parch a dealltwriaeth rhwng y cenedlaethau.

“Os wyt ti’n mynd yn ôl flynyddoedd yn ôl, roedd pontio’r cenedlaethau yn rywbeth oedd yn digwydd yn hollol naturiol mewn cymunedau, ond erbyn hyn, yn anffodus, dim dyna’r achos,” meddai Mirain Llwyd Roberts, Cydlynydd Gwynedd Oed Gyfeillgar, wrth golwg360.

“Mae pobol yn gwneud llai gyda’u cymdogion.

“Yn flaenorol, efallai byddai pawb sydd yn byw wrth ei gilydd yn nabod pawb.

“Yn naturiol, mae hyn yn arwain at bobol yn cymysgu efo pobol o wahanol oedrannau, ond dydy hyny ddim yn wir rŵan.

“Mae llawer o bethau fel hyn wedi golygu bod yna rwyg rhwng yr oedrannau.

“Mae prosiectau fel hyn, gobeithio, yn dod â phobol yn ôl at ei gilydd.

“Pwrpas Pontio’r Cenedlaethau a gwahanol brosiectau o’r math yma ydy gwneud i bobol ddeall, ddim yn erbyn ein gilydd ydan ni ond bod pawb o fewn cymdeithas a chymuned fod i gydweithio a pharchu ei gilydd, ac ati.

“Felly mae’r gwaith yma’n mynd ati i gynyddu parch a dealltwriaeth rhwng pobol o wahanol oedrannau.

“Mae’n gyfle i bobol ddeall bod oed dim ond yn rif, fod o ddim yn golygu dim byd, bo ti’n gallu bod yn ffrindiau pennaf efo rhywun o unrhyw oed a bod gennym ni gymaint o bethau yn gyffredin efo pobol sydd ddim yr un oed â ni hefyd.”

Pontio’r cenedlaethau yn amrywio

Mae amrywiaeth o wahanol bethau a sawl lefel i bontio’r cenedlaethau, ac mae ymchwil dwys wedi ei wneud ar y mater dros y blynyddoedd.

“Mae yna ymchwil penodol gan Matt Kaplan o America,” meddai wedyn.

“Mae wedi rhyddhau llawer o ymchwil yn y maes, ond yn benodol yn 2007 mae wedi rhyddhau gwahanol lefelau o bontio’r cenedlaethau.

“Bysa’r lefel isaf yn gallu bod, bod ni’n cynnal sesiwn ffrindiau dementia i blant neu bo ni’n trafod oedraniaeth [ageism] ac yn herio oedraniaeth gyda phobol.

“Neu mae’r lefelau uchaf yn Pontio’r Cenedlaethau yn golygu cysylltiad rheolaidd o grwpiau rhwng gwahanol oedrannau.

“Mae gennym ni dipyn o brosiectau o’r math yma’n digwydd yng Ngwynedd, lle mae ysgolion yn mynd mewn i gartrefi gofal.

“Mae gennym un ar y funud rhwng Ysgol y Gelli a Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon.

“Mae hyn yn wahanol bethau fel gweithio ar gelf, canu efo’n gilydd a gwneud llwyth o bethau fel yna.

“Hefyd, un o’r prif bethau efo pontio’r cenedlaethau yw bod pawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn teimlo perchnogaeth, yn teimlo’u bod nhw’n bwysig fel rhan o’r gwaith yma, ond hefyd yn deall bod gennym gymaint i’w ddysgu gan ein gilydd.

“Mae rhannu sgiliau rhwng y cenedlaethau yn bwysig hefyd.”

Hanes Pontio’r Cenedlaethau

Dechreuodd y prosiect fel wythnos yng ngwledydd y Deyrnas Unedig, ond erbyn hyn mae pymtheg gwlad yn cymryd rhan, gyda Chymru yn un o’r gwledydd sy’n arwain arno.

Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y cnawd ac yn rhithiol.

“Yn ôl yn 2020 y gwnaeth Wythnos Pontio’r Cenedlaethau gael ei sefydlu,” meddai Mirain Llwyd Roberts.

“Yn syml, wythnos ym Mhrydain yn unig oedd hon.

“Llynedd, aethon nhw’n ryngwladol am y tro cyntaf.

“Erbyn hyn, mae yna bymtheg gwlad yn cymryd rhan ac mae’r wythnos yn cael ei harwain gan bedair gwlad, ac mae Cymru’n un o’r rheini.

“Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar ran Cymru yn ystod yr wythnos.

“Mae gennych chi ddigwyddiadau ar hyd yr wythnos, o Awstralia i Fecsico i Sbaen i Gymru i’r Alban, ac ati.

“Nid yn unig digwyddiadau ar-lein ydy’r rhain, ond digwyddiadau ar lawr gwlad.

“Rydym yn dathlu a chodi ymwybyddiaeth o Bontio’r Cenedlaethau ond hefyd yn rhannu ymarfer da, yn dysgu gan ein gilydd, ac yn rhannu sut i fynd ati efo pobol.”

Mae’n gobeithio y gall yr wythnos yma annog mwy ar draws Cymru i fynd ati i bontio’r cenedlaethau.