Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cael ei feirniadu ar ôl dweud y bydd yn parhau i ddefnyddio’r enw Saesneg ‘Brecon Beacons’, ac nid Bannau Brycheiniog.
Daw ei sylwadau wrth iddo ymateb i benderfyniad awdurdod y parc cenedlaethol i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig.
Mae llu o adroddiadau wedi nodi’n anghywir fod y parc wedi newid ei enw, yn hytrach na chydnabod fod y parc wedi dewis defnyddio’r enw Cymraeg ar draul yr enw Saesneg, ac y bydd yn cael ei adnabod wrth yr enw ‘Bannau Brycheiniog National Park’ yn Saesneg.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi beirniadu’r penderfyniad, gyda’r arweinydd Andrew RT Davies yn dweud bod y ‘newid’ yn “tanseilio” pa mor adnabyddus yw’r mynyddoedd y tu allan i Gymru.
Sylwadau Sunak
Ar drothwy cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig, mae Rishi Sunak yn dweud y bydd yn parhau i ddefnyddio’r enw Saesneg ‘Brecon Beacons’ fel “y mwyafrif o bobol”.
Daw hyn er iddo fynnu wrth sôn am S4C ei fod yn “gefnogwr mawr o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig”.
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig, dywedodd y parc cenedlaethol y byddai’n hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal.
Yn ôl Rishi Sunak, mae’r parc “yn lle adnabyddus yn rhyngwladol i ymweld ag e, ac mae’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd”.
Dywedodd ei fod yn “rywbeth rydyn ni i gyd yn falch ohono ledled y Deyrnas Unedig”, ond y byddai’n “parhau i’w alw’n Brecon Beacons”.
“Byddwn i’n dychmygu y byddai’r rhan fwyaf o bobol yn gwneud hynny hefyd,” meddai.
Yr ymateb yng Nghymru
Mae’r actor Julian Lewis Jones wedi beirniadu Rishi Sunak, gan ofyn a fyddai’n mynd i Awstralia ac yn gwrthod defnyddio’r enw brodorol Uluru gan fynnu ei alw wrth ei enw Saesneg Ayers Rock.
“Felly a fyddai’r llipryn yna @RishiSunak yn mynnu galw Uluru wrth ei enw anfrodorol pan fydd yn ymweld ag Awstralia? Trahauster yn y cnawd @CroesoBannauB,” meddai ar Twitter.
https://twitter.com/JulesLewisJones/status/1651822951069626368
Gair sy’n dod o dafodiaith Pitjantjatjara yw Uluru, ac mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel enw teuluol perchnogion traddodiadol Uluru.
Yn 1873, cafodd yr ardal ei henwi’n Ayers Rock gan William Gosse, a hynny er mwyn anrhydeddu Syr Henry Ayers, Prif Ysgrifennydd De Awstralia ar y pryd.
Mae’r ddau enw wedi cael eu defnyddio’n helaeth ers hynny, ac yn 1993 daeth polisi o ddefnyddio’r ddau enw’n swyddogol ac fe gafodd ei adnabod wrth yr enw dwyieithog ‘Ayers Rock / Uluru’ cyn cael ei newid i ‘Uluru / Ayers Rock’ yn 2002 yn dilyn cais gan gorff twristaidd.
‘Prif Weinidog Lloegr’
Mae’r mudiad annibyniaeth YesCymru wedi ymateb gan alw Rishi Sunak yn “Brif Weinidog Lloegr”.
https://twitter.com/YesCymru/status/1651845630975791104
Defnyddio enwau brodorol
Mae’r polisi o ddefnyddio enwau brodorol yn lle enwau Saesneg ar lefydd yn gyffredin ar draws y byd, nid lleiaf mewn gwlad fel India oedd wedi bod o dan ddylanwad yr Ymerodraeth Brydeinig.
Yn 1947 y dechreuodd yr ymdrechion i ddychwelyd at enwau brodorol wrth gyfeirio at ddinasoedd y wlad.
Nid pob enw brodorol gafodd ei dderbyn, serch hynny, ac roedd unrhyw newid yn digwydd yn ôl disgresiwn llywodraeth ganolog India.
Ymhlith yr enghreifftiau o ddinasoedd lle mae amnewid rhwng ieithoedd brodorol a Saesneg wedi bod mae Kolkata / Calcutta, Mumbai / Bombay a Chennai / Madras.
Gyda dau sillafiad ar gyfer y dinasoedd hyn, mae’r defnydd o’r enwau brodorol wedi amrywio’n fawr o un dalaith i’r llall ac mae hefyd yn dibynnu’n helaeth ar ba enw mae’r cyfryngau’n ei ddefnyddio arnyn nhw.