Roedd ymddiswyddiad Richard Sharp, cadeirydd y BBC, yn “anochel”, yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Caerdydd.

Mae Kevin Brennan yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant fu’n holi Richard Sharp am gyfarfod â Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, yn ystod y broses o benodi cadeirydd newydd.

Yn ystod y cyfarfod hwnnw, dywedodd wrth Johnson ei fod e’n bwriadu mynd at Ysgrifennydd y Cabinet i’w holi ynghylch sut i’w gyflwyno i rywun fyddai’n gallu helpu’r Prif Weinidog yn ariannol.

Cefndir

Daw ymddiswyddiad Richard Sharp yn dilyn cyhoeddi adroddiad i’w benodiad a honiadau am ffafriaeth.

Dywed fod yr adroddiad wedi canfod iddo dorri cod penodiadau cyhoeddus y llywodraeth, ond mae’n mynnu bod unrhyw gamwedd yn anfwriadol.

Mae disgwyl iddo aros yn ei swydd hyd nes bod ei olynydd yn cael ei benodi, serch hynny.

Ym mis Ionawr, roedd adroddiadau ei fod e wedi hwyluso sicrwydd benthyciad o £800,000 i Boris Johnson, wythnosau’n unig cyn iddo ei benodi’n gadeirydd y Gorfforaeth.

Dydy Boris Johnson ddim wedi ymateb hyd yn hyn.

Yn dilyn cyhoeddi ymchwiliad i’r mater, tynnodd William Shawcross, y comisiynydd penodiadau cyhoeddus, yn ôl o’r broses gan ddweud iddo ddod i gysylltiad â Richard Sharp mewn perthynas â’r mater, oedd yn golygu gwrthdaro buddiannau.

Cafodd Boris Johnson wybod fis Tachwedd 2020 fod Richard Sharp yn bwriadu ymgeisio am rôl cadeirydd y BBC, a dywedodd y byddai’n cyfarfod â Simon Case cyn dechrau’r broses i drafod y benthyciad.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal fis yn ddiweddarach, ond doedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi cael gwybod am hynny pan gafodd ymgeiswyr ar gyfer y rôl gais i ddatgan gwrthdaro buddiannau.

Daeth ymchwiliad i’r casgliad fod y cysylltiad rhwng Richard Sharp a Boris Johnson yn golygu nad oedd e’n gallu bod yn gadeirydd annibynnol, ond mae Sharp wedi wfftio hynny.

Cysylltiad arall rhwng Richard Sharp a’r llywodraeth yw ei fod e, ar un adeg, yn gydweithiwr i’r Prif Weinidog Rishi Sunak yn Goldman Sachs.

 

Wrth ymateb, mae’r BBC wedi dweud eu bod nhw’n credu bod Richard Sharp yn “berson gonest”.

Ond roedd y sefyllfa hon gam yn rhy bell i gadeirydd oedd eisoes dan y lach am y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â’r cyflwynydd Gary Lineker, gafodd ei dynnu oddi ar yr awyr am ei sylwadau am bolisi mewnfudo’r llywodraeth.

‘Anhygoel’

Wrth ymateb, dywed Kevin Brennan fod yr hyn ddywedodd Richard Sharp yn ystod gwrandawiad pwyllgor seneddol yn “anhygoel”.

“Dyma eich atgoffa o’r hyn ddywedodd Richard Sharp wrtha i ddeufis yn ôl pan wnes i ei holi mewn sesiwn o’r Pwyllgor Dethol DCMS – roedd yn anochel fod yn rhaid iddo fe fynd,” meddai.

Mewn trydariad arall sydd wedi’i glymu wrth hwnnw, dywed Kevin Brennan fod y fideo sydd wedi’i gynnwys yn “anhygoel”.

“Dywed Richard Sharp, cadeirydd presennol y BBC, wrtha i yn ystod y broses benodi iddo gyfarfod â’r Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson,” meddai.

“AC yn datgelu ei fod e wedi dweud wrth y Prif Weinidog ei fod e am fynd at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn sut i’w gyflwyno i rywun fyddai’n gallu helpu’r Prif Weinidog yn ariannol.”

Mae modd dilyn sylwadau Kevin Brennan ar ei dudalen Twitter: