Mae Ebrill 28 yn Ddiwrnod Coffa Gweithwyr Rhyngwladol – diwrnod sy’n cofio’r rheiny fu farw wrth eu gwaith.

Bob blwyddyn, caiff mwy o bobol eu lladd yn y gweithle nag mewn rhyfeloedd, yn ôl yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU).

Yn aml, nid damweiniau nac afiechydon sy’n achosi’r marwolaethau hyn, ond diffyg ystyriaeth i agweddau diogelwch gan gyflogwyr.

Eleni, mae dioddefwyr canser galwedigaethol a’u teuluoedd yn galw ar arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd i osod y lefel uchaf posibl o amddiffyniad rhag asbestos.

Yn ôl y wefan 28april, sy’n codi ymwybyddiaeth o farwolaethau yn y gweithle, mae tua 90,000 o bobol yn marw o ganser sy’n gysylltiedig ag asbestos bob blwyddyn yn yr Undeb Ewropeaidd.

Llwythi gwaith di-ildio

Yn ogystal, mae undeb UCU wedi cyhoeddi’r themâu penodol ar gyfer eleni, sef brwydro yn erbyn straen sy’n gysylltiedig â gwaith, a llwythi gwaith di-ildio.

Yn ôl eu hymchwiliad yn 2021, mae staff addysg uwch yn gweithio dau ddiwrnod heb dâl bob wythnos ar gyfartaledd oherwydd llwyth gwaith anhydrin ac anghynaladwy ar gyfer y rhan fwyaf o staff.

Maen nhw wedi galw ar yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch i gefnogi cynrychiolwyr diogelwch i gyflawni eu dyletswyddau ac i sicrhau bod cyflogwyr yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.

Maen nhw hefyd wedi eu hannog nhw i ymchwilio a gweithredu ar bob achos o hunanladdiad sy’n gysylltiedig â’r gweithle.

“Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau nad yw gweithwyr yn dioddef o salwch corfforol neu feddyliol oherwydd gwaith,” meddai’r undeb.

‘Atgof o hawliau y gweithle’

Mewn fideo ar Twitter, mae Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, wedi rhannu pwysigrwydd cofio am y gweithwyr sydd wedi’u colli dros y blynyddoedd.

“Mae’r diwrnod yn gweithredu fel atgof o hawliau yn y gweithle a pha mor bell rydyn ni wedi dod, diolch i waith ein hundebau llafur, ond hefyd pa mor bell sydd yn rhaid i ni ddod eto er mwyn amddiffyn hawliau a diogelwch y gweithlu,” meddai.

“Fel Undebwr Llafur balch, dw i wedi sefyll wrth gefn gweithwyr a’u diddordebau erioed.

“Beth am i ni i gyd gofio pwysigrwydd gwneud hynny heddiw?”

Yn ogystal, rhannodd Luke Fletcher, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, fideo gan Cerith Griffiths o Undeb y Frigâd Tân yng Nghymru.

“Yn 1958, collodd fy hen ewythr Harold Griffiths ei fywyd mewn damwain cloddio,” meddai.

“Ar Ddiwrnod Coffa Gweithwyr Rhyngwladol rydym yn cofio’r rheiny sydd wedi colli eu bywydau yn y gwaith.

“Ddylai neb adael i’r gwaith a byth ddod yn ôl adref, mae heddiw yn cofio’r rheiny sydd yn y pen draw wedi talu’r pris yn y gweithle.

“Rydyn ni’n eu coffáu nhw a’r teuluoedd maen nhw wedi eu gadael ar ôl.

“Cofiwch y meirw, ymladdwch dros y byw.”

Am hanner dydd Mae’r UCU yn annog cyflogwyr i gynnal munud o dawelwch am ganol dydd i goffáu’r rheiny sydd wedi colli eu bywydau oherwydd amodau gweithio gwael.