Mae awdur cyfrol newydd yn dweud iddo ddarganfod tystiolaeth fod cwmni Marconi wedi defnyddio arwyddion dwyieithog oedd yn blaenoriaethu’r Gymraeg yn eu gorsaf ddiwifr yn Waunfawr yn 1923.

Gwnaed y darganfyddiad gan John Rowlands wrth iddo ymchwilio er mwyn ysgrifennu llyfr ynglŷn â’r orsaf, Marconi’s Carnarvon Station 1912-1939: A Journey into Early Commercial Wireless in North Wales, gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar.

Yn ogystal â rhybuddio’r rheiny oedd yn adeiladau estyniad i’r antena cyntaf, mae’n debyg hefyd fod Marconi yn bwriadu rhoi rhybudd i’r rheiny oedd yn rhodio mynydd Cefn Du.

Roedd yr arwydd yn dweud, ‘Perygl – Danger – 10,000 Volts’.

Roedd gorsaf ddi-wifr Marconi yng Nghaernarfon, oedd yn cael ei hadnabod ar y pryd fel ‘Carnarvon’, yn gyrru negeseuon busnes ariannol ac ymerodrol, gan gynnwys lluniau, o gwmpas y byd rhwng 1914 a 1939.

Eleni yw canmlwyddiant yr antena ychwanegol gafodd ei adeiladu ar lethau Cefn Du yn 1923, fel estyniad yn y lle cyntaf ac o 1925 fel antena annibynnol.