Mae dynes o Arfon ddaeth yn agos at golli bodiau ei thraed yn dilyn damwain yn ei gardd yn rhybuddio am beryglon peiriannau garddio.
Bu’n rhaid i’r ddynes, sydd eisiau aros yn ddienw, fynd i’r ysbyty i gael triniaeth ar ôl digwyddiad pan nad oedd hi’n gwisgo esgidiau addas.
Mae hi bellach eisiau i bobol eraill fod yn ymwybodol o’r peryglon ac i baratoi yn drwyadl cyn mynd allan i’r ardd.
Y digwyddiad
Gan nad yw hi’n arddwraig brofiadol, defnyddiodd y ddynes y peiriant torri gwair anghywir.
Doedd hi heb gynllunio ymlaen llaw drwy wisgo esgidiau addas, ac aeth y peiriant dros fodiau ei thraed.
“Roedd fy mhartner yn strimio’r glaswellt i ddechrau,” meddai wrth golwg360.
“Dydyn ni ddim yn arbenigwyr DIY, felly cawsom yr ochr anghywir ar y strimiwr.
“Roedd o hanner ffordd trwy dorri’r glaswellt, aeth y batri, ac roeddwn i yng nghanol y paentio.
“Pan wnes i orffen paentio, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gorffen y strimio oherwydd doeddwn i ddim eisiau aros.
“Wnes i ddim meddwl am y math o esgidiau oedd gen i pan wnes i ddechrau fy strimio.
“Tarodd y strimiwr garreg neu rywbeth felly.
“Digwyddodd yn eithaf cyflym, a bownsiodd yn ôl ar fy nhroed.
“Effeithiodd ar dri o fodiau fy nhraed.
“Rwy’n ddiolchgar fy mod i wedi llwyddo i gadw bodiau fy nhraed, bu bron i mi golli tri.
“Rydw i wedi torri trwy’r tendon ac i lawr i’r asgwrn, felly rydw i wedi bod yn ffodus.”
Ymweliad â’r ysbyty
A hithau mewn poen aruthrol ac yn gwaedu’n drwm, roedd amser aros hir am yr ambiwlans oherwydd y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Daeth ei brawd i’w hachub a’i chludo i’r ysbyty, lle cafodd hi driniaeth.
“Es i i’r mân anafiadau.
“Ceisiais ffonio ambiwlans, ond roedd rhaid aros am dair awr.
“Ffoniais fy mrawd.
“Roeddwn i wedi llwyddo i gael y gwaedu dan reolaeth erbyn hyn.
“Cefais afael ar fy mrawd, ac aeth yntau â fi i’r ysbyty.
“Roeddwn i’n gobeithio ei fod yn anaf bach ac y gallwn i gael fy ngludo a pharhau â’m diwrnod.
“Rwy’n meddwl fy mod i wedi tanamcangyfrif yr hyn roeddwn wedi’i wneud.
“Es i i Allt Wen, fe wnaethon nhw fy anfon i Ysbyty Gwynedd wedyn, lle ces i fy ngwnïo a chefais wrthfiotigau.”
Rhybudd i eraill
Yn dilyn ei phrofiad anffodus, mae’r ddynes bellach yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus ac i baratoi cyn garddio.
“Rwy’n meddwl ein bod weithiau’n anghofio ein bod ni’n bobol, a bod angen i ni amddiffyn ein hunain,” meddai.
“Mae llawer o offer yn yr ardd, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r hyn rydych chi’n ei ddefnyddio a meddwl am bethau fel gogls diogelwch a chapiau traed dur.”