Mae llestri o’r Oes Haearn, ceiniogau Rhufeinig a dwy eitem arian o’r 17eg ganrif wedi cael eu cadarnhau’n drysor.
Cafodd y celc o lestri o’r Oes Haearn ac oes y Rhufeiniaid eu canfod gan Jon Matthews ym mis Mawrth 2019 wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yn Llantrisant Fawr, Sir Fynwy.
Ar ôl rhagor o waith gan Gynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) ac Amgueddfa Cymru, daethpwyd o hyd i ddau lestr cyflawn a chwe rhan o lestri eraill.
Cafodd gweddillion dau dancard pren erwydd a bwced o’r Oes Haearn; powlen, crochan a straeniwr copr aloi o’r Oes Haearn, a dwy sosban aloi copr Rhufeinig eu darganfod yno hefyd.
Mae’n debyg i’r llestri gael eu claddu gyda’i gilydd tua chyfnod goresgyniad y Rhufeiniaid, yn ail hanner y ganrif gyntaf Oed Crist.
Dywedodd y canfyddwr, Jon Matthews, ei bod hi’n “fraint canfod rhywbeth mor unigryw, gyda chysylltiad â Chymru a’n cyndeidiau”.
“Mae gweithio gyda PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi bod yn brofiad gwych.
“Roedd yr archeolegwyr wnaeth ddadorchuddio’r celc gyda fi yn grŵp hyfryd o bobol, a drwy gydweithio fe wnaethon ni ddysgu cymaint o’r llestri a sut oedden nhw wedi’u canfod yn y ddaear.”
‘Cipolwg ar safle newydd’
Cafodd y ceiniogau Rhufeinig eu darganfod gan Colin Price a Rhys Cadwallader rhwng 2014 a 2022 wrth iddyn nhw ddefnyddio datgelydd metel ar dir wedi’i aredig ger Caerwent, Sir Fynwy.
Mae’r ceiniogau aloi copr yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif i ddiwedd y bedwaredd ganrif Oed Crist.
Gyda’i gilydd, mae’r celciau’n rhoi cipolwg diddorol ar safle newydd yn dyddio o ddiwedd Oes y Rhufeiniaid.
“Mae canfod dau gelc ceiniogau yn yr un cae ac yng nghyffiniau tref Rufeinig Caer-went yn gyffrous ac arwyddocaol,” meddai Alistair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru yn Amgueddfa Cymru.
“Cynhaliwyd ymchwiliad o’r safle ym mis Tachwedd 2022 gan fy nghydweithiwr Dr Mark Lewis ac intern PAS Cymru, Clara Cunha, gyda help y canfyddwyr a pherchennog y tir.
“Mae canlyniadau’r arolwg geoffisegol yn awgrymu bodolaeth anheddiad neu safle crefyddol oedd gynt yn anhysbys, lle cafodd y celciau eu claddu, gan daflu goleuni ar gyffiniau gwledig tref Rufeinig Venta Silurum.
“Mae’r canlyniadau hefyd yn bwysig i ddeall digwyddiadau yn ne-ddwyrain Cymru tua’r amser oedd y Rhufeiniaid yn gadael, ar ddiwedd y 5ed ganrif OC.”
Mae Amgueddfa Cymru wedi dangos diddordeb yn y ddau gelc.
Cafodd gwniadur arian ôl-ganoloesol a gafodd ei darganfod gan Luke Phillips yng nghymuned Merthyr Tewdrig yn Sir Fynwy ei labelu fel trysor gan Rose Farmer, Crwner Cynorthwyol Gwent hefyd.
Mae gan y gwniadur o’r ail ganrif ar bymtheg fand llydan wedi’i addurno â blodau a sgroliau, a darlun o wyneb gyda barf a mwstas.
Ar y blaen mae panel hirsgwar gyda’r priflythrennau ‘MN’ wedi’u hengrafu – y perchennog yn ôl pob tebyg. Mae Amgueddfa Cas Gwent wedi dangos diddordeb caffael y gwniadur,