Mae deiseb wedi’i sefydlu ar ôl i Adran Addysg Iwerddon benderfynu dirwyn arian ar gyfer addysg Wyddeleg mewn ysgolion yn Derry i ben.

Dywed gwrthwynebwyr i’r cynllun y bydd yn golygu amddifadu 1,600 o blant mewn pymtheg o ysgolion o’u hunig wers awr wythnosol.

Maen nhw’n dweud mai dyma unig gyfle rhai o’r plant i gael gwersi yn yr iaith, ac y bydd yn gadael “bwlch mawr” yn yr iaith yn y ddinas.

Yn ôl y Ddeddf Iaith Wyddeleg, mae dyletswydd ar yr Adran Addysg i sicrhau cyfle cyfartal mewn perthynas â’r iaith, ond mae’r ymgyrchwyr yn dweud bod rhagor o doriadau’n cael eu cyflwyno yn hytrach na buddsoddiad pellach yn yr iaith.

Cytundeb Gwener y Groglith

Roedd ymrwymiad i Siartr Ewrop ar Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol hefyd yn rhan o Gytundeb Gwener y Groglith, sy’n mynnu lle teilwng i’r iaith ym myd addysg a “hwyluso ac annog y defnydd o’r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn gyhoeddus ac yn breifat lle bo galw priodol”.

Chwarter canrif ers y Cytundeb, mae’r ymgyrchwyr yn galw ar yr Adran Addysg i barhau i ateb y galw am addysg Wyddeleg, gan ddweud na ddylid “tanbrisio pwysigrwydd yr iaith, yn enwedig ei hygyrchedd mewn ysgolion”.

Mae cynllun Léargas ar waith yn Derry sy’n cysylltu pobol ifanc â’r gymuned ehangach yn y ddinas, y sir, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, ac mae ymgyrchwyr yn dadlau ei fod yn eu helpu i “wireddu’r uchelgais o Derry lle mae pob hunaniaeth, iaith a chefndir diwylliannol yn cael eu dathlu”.

Mae’r ymgyrchwyr yn dadlau y byddai colli athrawon, eu profiad a’u sgiliau yn golygu colli “ased sylweddol yn ein dinas”.

“Plis helpwch ni i frwydro yn erbyn y toriadau arfaethedig, i gadw’r Gaeilge yn fyw yn ein dinas,” meddai’r ymgyrchwyr.

“Llofnodwch y ddeiseb, rhannwch hi â’ch ffrindiau, ac ymunwch â ni wrth i ni frwydro dros yr iaith Wyddeleg.”

Pobol ifanc yn trafod yr heriau sy’n wynebu siaradwyr Gwyddeleg

Roedd dros 100 o ddisgyblion o fwy nag ugain o ysgolion yn rhan o’r drafodaeth yn Iwerddon