Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn gosod sticer ac yn paentio sloganau ar adeiladau’r Llywodraeth yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno ar drothwy rali fawr ‘Nid yw Cymru ar Werth’.

Bydd y rali’n cael ei chynnal yng Nghaernarfon ddydd Llun nesaf (Mai 8), wrth i aelodau alw am Ddeddf Eiddo.

Er bod y Cytundeb Cydweithio yn ymrwymo i gyflwyno Deddf Eiddo a Rhenti Teg yn nhymor presennol y Senedd, pryder Cymdeithas yr Iaith yw na fydd y ddeddf yn mynd at wraidd y broblem tai – sef y farchnad agored, sy’n trin cartrefi fel asedau i wneud elw.

Yn ôl Osian Jones ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith, mae’r gweithredu yn ffordd arall o gynyddu’r pwysau ar y Llywodraeth.

“Credwn fod yn rhaid i ddifrifoldeb ein gweithredu ddechrau cynyddu i adlewyrchu difrifoldeb y broblem – problem teuluoedd sy’n methu cael cartrefi a phroblem chwalfa ein cymunedau Cymraeg,” meddai.

“Yn yr un modd, dylai ymateb y Llywodraeth gyfleu maint y broblem tai trwy weithredu radical i reoli’r farchnad.

“Galwn felly i bobol o gymunedau ar draws Cymru i ddod i Gaernarfon i bwyso am Ddeddf Eiddo gyflawn.”

Llythyr agored

I gyd-fynd â’r weithred, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi llythyr agored yn galw am sicrwydd y bydd rheoli’r farchnad rydd yn rhan o’r Ddeddf Eiddo arfaethedig, ac am amserlen ar gyfer rhyddhau Papur Gwyrdd y ddeddf.

“Er mor bwysig yw rheoli’r farchnad rhent, ni ellir mynd at wraidd y problemau heb reoleiddio’r farchnad tai yn ei chyfanrwydd,” medd y llythyr.

“Heb hynny, ni ellid gwaredu’r anghyfiawnderau ac anghyfartaledd ofnadwy a welir bob dydd ar lawr gwlad.

“Gofynnwn felly i chi ddatgan y byddwch yn cyflwyno deddf, yn y tymor Senedd hwn, fydd yn cynnwys mesurau i reoli’r farchnad tai a hefyd am amserlen cyhoeddi’r papur gwyrdd.”

‘Camau radical’

Yn ôl Osian Jones, mae angen “camau radical” er mwyn datrys y sefyllfa.

“Yn dilyn ymgyrchu a lobio torfol mae’r Llywodraeth wedi rhoi grymoedd newydd i Awdurdodau Lleol gyfyngu ar ormodedd ail gartrefi a llety gwyliau,” meddai.

“Mae angen pwysau nawr i sicrhau camau radical i ddarparu cartrefi i bobol leol yn eu cymunedau a sicrhau parhad ein cymunedau Cymraeg.

“Os daw torf enfawr i’r rali ar y maes yng Nghaernarfon ddydd Llun, Mai 8, bydd yn rhoi pwysau mawr ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Eiddo gyflawn i flaenoriaethu pobol leol yn y farchnad dai.”