Mae adran Defra Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi’r penderfyniad i ailenwi llwybr arfordir yn Lloegr ar gyfer coroni’r brenin newydd.
Bydd Llwybr Arfordir Lloegr bellach yn cael ei alw’n Llwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl III, neu ‘King Charles III England Coast Path’.
Daw hyn yn dynn ar sodlau’r ddadl tros ‘ailenwi’ Bannau Brycheiniog, lle penderfynodd yr awdurdod arddel yr enw Cymraeg ar y parc cenedlaethol, sydd bellach yn cael ei adnabod wrth yr enw ‘Bannau Brycheiniog National Park’ yn Saesneg hefyd.
Wrth ymateb, roedd nifer fawr o bobol ddi-Gymraeg yn dweud y bydden nhw’n parhau i ddweud ‘Brecon Beacons’.
Hang on a Bannau Brycheiniog minute… https://t.co/HSByWtFxMC
— Owen Williams 🏴 (@OwsWills) May 1, 2023
‘Gwaddol’
“Ac yntau’n Dywysog Cymru, fe wnaeth Ei Fawrhydi fynegi cariad mawr a phryder am fywyd gwyllt a llefydd naturiol a chefn gwlad Lloegr, gan fyfyrio’n aml ar ei gariad at gerdded a’i rôl wrth hybu meddwl a chorff iach,” meddai datganiad yn cyhoeddi’r penderfyniad.
Bydd y newid yn dod i rym ar Fai 10, “gan adael gwaddol hirdymor i’w mwynhau gan bobol o amgylch arfordir cyfan Lloegr”.
Mae’r llwybr yn ymestyn dros 2,700 milltir, ac mae 794 milltir yn agored i’r cyhoedd eisoes i fynd i gerdded, a’r bwriad yw y bydd yn hollol hygyrch erbyn diwedd 2024.
“Mae’r Brenin yn bencampwr natur ymroddedig yn ein gwlad,” meddai Therese Coffey, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Fe arweiniodd yr ymdrechion i symud tuag at dechnegau ffermio mwy amgylcheddol-gyfeillgar a thrwy ei Sefydliad y Tywysog, mae e wedi ceisio tynnu sylw at sut all addysg feithrin arweinyddiaeth gyfrifol o’r blaned a’r amgylchedd naturiol.
“Mae’r Coroni yn nodi pennod newydd yn hanes ein cenedl ac mae’n briodol y bydd natur a’r cyhoedd yn elwa ar y dathliadau hirdymor hyn am flynyddoedd i ddod.”