Newid hinsawdd, costau byw a rhyfeloedd fel y rhai yn Wcráin a Swdan yw’r prif heriau y gallai’r Eglwys yng Nghymru ganolbwyntio arnyn nhw, meddai Esgob newydd Llandaf.
Cafodd yr Esgob Mary Stallard ei chroesawu i’r esgobaeth ddydd Sadwrn (Ebrill 29) yng Nghadeirlan Llandaf.
Un o Birmingham ydy Mary Stallard yn wreiddiol, ond mae hi’n byw yng Nghymru ers y 1990au, pan aeth ati ar ei hunion i ddysgu Cymraeg.
Roedd hi ymysg y menywod cyntaf i ddod yn offeiriaid yng Nghymru pan gafodd ei hordeinio yn 1997.
Ers cael ei hordeinio, mae Mary Stallard wedi gweithio yng Nghasnewydd, yn esgobaethau Tyddewi a Llanelwy, ac yn fwy diweddar fel Archddiacon Bangor.
Y llynedd, daeth yn Esgob Cynorthwyol ym Mangor, cyn cael ei chysegru’n esgob eleni.
Heriau “amlwg”
Mae hi “wir fraint i dderbyn yr alwad newydd hon”, meddai esgob rhif 73 Llandaf.
“Mae’n amlwg beth ydy’r heriau sy’n wynebu pawb ar hyn o bryd. Yr argyfwng hinsawdd ydy un o’r pethau mwyaf enfawr i ni gyd, mae’n rhwydd siarad am yr argyfwng hinsawdd ond mae’n anodd newid ein bywydau ac mae’n rhaid i ni wneud hynny, rhaid i ni wneud hynny fel Eglwys,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n dibynnu gormod ar danwydd ffosil ar hyn o bryd, a rhaid i ni newid sut ydyn ni’n defnyddio gwres, sut ydyn ni’n trin ein hadeiladu, a chael partneriaethau gyda’r llywodraeth i siarad am sut fedrwn ni fyw mewn ffordd sy’n fwy uniongred â chreadigaeth.
“Os ydyn ni’n credu bod creadigaeth yn rhodd Duw i ni, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n trin y greadigaeth fel rhywbeth sanctaidd.
“Ar yr un amser, mae rhyfeloedd yn Wcráin a Swdan ac mae llawer o bobol yn desperate am obaith ac i ddarganfod ffyrdd i fyw gyda’n gilydd.
“Mae angen cymorth a chefnogaeth i’r ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac mae’r efengyl Gristnogol yn glir iawn ynglŷn â’r alwad i garu ein cymydog ac i edrych ar ôl pobol eraill.
“Mae’n gwestiwn i ni gyd – beth ydy ystyr bod yn gymdogion?
“Wrth gwrs, mae argyfwng costau byw ar y funud. Mae llawer o bobol yn stryglan jyst i fyw.
“Mae’r eglwys ar hyn o bryd yn gwneud lot, mae lot o eglwysi’n rhedeg banciau bwyd.
“Rydyn ni wedi cael ryw fath o ymgyrch gan ein Harchesgob, Ymgyrch Bwyd a Thanwydd i siarad gyda’r Senedd a’r llywodraeth am sut fedrwn ni wneud ymdrech i newid beth rydyn ni’n ei wneud, a sut fedrwn ni ddefnyddio ein llais i newid ein ffordd o fyw.”
Cynnig gobaith
O ystyried hyn oll, mae lle i’r Eglwys siarad am obaith, dangos caredigrwydd a bod yn lle ble y gall pobol gael cefnogaeth a gofyn cwestiynau pwysig, eglurodd.
“Yn ystod y pandemig ac yn wyneb gymaint o anghenion, dw i ddim yn credu bod pobol wedi colli ffydd neu’r agwedd ysbrydol, ond mae e wir yn her i’r Eglwys fod yn fwy ystwyth a gwrando ac i fod yna fel ffrind ffyddlon i bobol mewn angen,” meddai Mary Stallard.
“Mae’n amser mor gyffrous i fod yn Gristion dw i’n credu, ac yn enwedig i fod yn Esgob.
“Gyda chymaint o angen yn y byd, dw i wir yn credu bod lle i ffydd. Strapline yr esgobaeth yw ‘Mae ffydd yn cyfrif’, a dw i wir yn credu hynny.
“Mae lle yn ein cymdeithas ni i gymryd ffydd o ddifrif, ac mae her i’r eglwys ddangos i bawb ei bod hi werth ystyried materion ffydd.
“Dydy e ddim yn rhywbeth hen ffasiwn, mae’n rhywbeth sy’n rhoi gobaith a chysur a’r cyfle i ddarganfod mwy.”