Mae Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn dweud bod yn rhaid “cydweithio efo graen natur os rydan ni eisiau sicrhau datrysiadau yn y tymor hir” ar gyfer llifogydd.
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau £75m ar gyfer prosiectau amddiffyn rhag llifogydd eleni, drwy eu cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r cynllun, mae £200m ar gael i’w wario ar y prosiectau dros dair blynedd gyntaf y Senedd bresennol.
Caiff yr arian ei ddyrannu i wahanol gynghorau yng Nghymru, gyda bron i £2m yn cael ei fuddsoddi yng Ngwynedd, bron i £3.5m ar Ynys Môn, a thros £5m yn Sir Ddinbych.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar brosiectau seilwaith mawr a bach er mwyn mynd i’r afael â llifogydd mewn afonydd, yn ogystal ag erydiad ar hyd yr arfordir a phroblemau sy’n dod o du’r môr.
Bydd canran o’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn sicrhau datrysiadau naturiol i lifogydd yn hytrach na defnyddio dulliau dynol megis waliau a ffosydd concrit.
‘Sicrhau’r amddiffyniad gorau i’r nifer fwyaf o bobol’
“Mae’n bwysig bod y cydbwysedd yna’n digwydd, dw i’n meddwl, oherwydd mae’n rhaid i ni gydweithio efo graen natur os rydan ni eisiau sicrhau datrysiadau yn y tymor hir,” meddai Llyr Gruffydd wrth golwg360.
“Yn amlwg, fel rhywun sy’n cynrychioli’r gogledd, mae yna brosiectau sylweddol iawn yn digwydd yn fy rhanbarth i, ac mae’r rheiny yn rhai dw i’n eu croesawu.
“Mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, ar hyd yr arfordir mewn ardaloedd fel Prestatyn a Bae Cinmel, neu ardaloedd tebyg sydd wedi dioddef efo problemau’r môr yn gorlifo yn y gorffennol.”
Dywed y bydd y buddsoddiad yn ychwanegu at brosiectau atal llifogydd sydd eisoes wedi digwydd yn yr ardal, ac sydd wedi amddiffyn neu wedi bod o fudd i ryw 10,000 eiddo hyd yma.
“Rydan ni wastad yn clywed, pan mae yna stormydd yn dod, am lifogydd yn digwydd yn y newyddion a does yna ddim byd yn bod ar hynny,” meddai.
“Ond mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain hefyd o gymaint o lefydd sy’n cael eu hamddiffyn oherwydd y buddsoddiadau yma, efallai bod y rheiny’n cael eu hanghofio weithiau.”
Yn ôl Llyr Gruffydd, mae’r arian gafodd ei bennu ar gyfer pob rhanbarth yn seiliedig ar y prosiectau arfaethedig sydd wedi cael eu cyflwyno yno gan awdurdodau lleol neu gyrff megis Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Yn amlwg maen nhw’n gwybod ble mae’r trafferthion ac maen nhw wedyn naill ai wedi gwneud y gwaith blaenoriaethu o ran y cynlluniau sydd angen eu gwireddu neu wrth gwrs yn gofyn am gyllid i fynd ymlaen i ddatblygu cynllun busnes,” meddai.
“Wedyn maen nhw yn cael eu blaenoriaethu, yn bennaf ar sail yr eiddo fydd yn cael ei amddiffyn oherwydd yn amlwg mae rhywun eisiau sicrhau’r amddiffyniad gorau i’r nifer fwyaf o bobl am y pres sydd yn cael ei fuddsoddi.
“Ond mae pob sefyllfa yn wahanol, mae pob sefyllfa yn unigryw ac yn amlwg mae’n rhaid edrych eu cryfderau a’u gwendidau.”
‘Angen y buddsoddiad’
Ymysg rhai o’r prosiectau sydd ar y gweill mae buddsoddiad o bron i £1m i wneud gwaith adeiladu ym Mae Cinmel, dros £2m ar gynllun Ffordd Rover i Ffordd Lamby Caerdydd a £35,000 ar gynllun Cydweli yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, eu bwriad yw diogelu mwy na 45,000 o gartrefi yng Nghymru.
“Does dim amheuaeth bod angen y buddsoddiad yma,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.
“Ry’n ni’n gwybod y byddai effaith llifogydd wedi bod yn waeth oni bai am ein rhwydwaith ni o amddiffynfeydd a gwaith diflino ein Hawdurdodau Rheoli Risg.
“Dyna pam rydym yn parhau i ddarparu’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, er mwyn galluogi ein Hawdurdodau Rheoli Risg i adeiladu a chynnal yr isadeiledd rydym yn dibynnu arno i gadw ein cymunedau’n ddiogel rhag yr heriau a achosir gan newid hinsawdd.”