Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dweud bod yn rhaid sefydlu banc cymunedol er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad i wasanaethau.

Yn dilyn cau nifer o fanciau’r stryd fawr a’r newyddion y bydd mwy o fanciau’n cau dros y misoedd nesaf, mae Cefin Campbell, sy’n cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi galw am Fanc Cymunedol yng Nghymru.

Fis Mehefin, bydd banc olaf Llandeilo’n cau ei ddrysau, tra bydd banc olaf ardal Cwm Gwendraeth yn cau fis Awst, a banc olaf Ystradgynlais, lle mae poblogaeth o 8,000 o bobol, yn cau fis Medi.

Golyga hyn fod ardaloedd mawr yn y de yn cael eu gadael heb unrhyw wasanaethau banc wyneb yn wyneb.

‘Siom enfawr’

Dywed Cefin Campbell fod y sefyllfa’n “siom enfawr i lawer iawn o bobol sydd ddim yn bancio ar-lein”.

Mae’r rheoleiddiwr Ofcom yn amcangyfrif nad oes gan 6% o gartrefi’r Deyrnas Unedig fynediad i’r rhyngrwyd, ac mai yn anaml iawn mae 14% o oedolion yn ei ddefnyddio.

Mae’r rhan fwyaf o’r rhain dros 64 oed, tra bod 11% o’r aelwydydd tlotaf heb ryngrwyd hefyd.

Mae AgeUK yn amcangyfrif bod un ym mhob pump o bobol dros 65 oed yn ddibynnol ar arian parod yn eu bywydau dydd i ddydd.

“Mae e’n mynd i effeithio ar henoed, y mwyaf bregus, pobol anabl a phobol sydd efallai â dim mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig,” meddai Cefin Campbell wrth golwg360.

“Mae bysiau ar gael i rai trefi ble mae modd mynd i fancio, ond os yw’r banciau yma’n cau mae’n golygu taith hir iawn i’r rhai mwyaf bregus a rhai sydd hefyd efallai ddim yn gallu fforddio teithio’n bell.

“Felly’r rhai mwyaf bregus a’r rhai mwyaf tlawd yn y gymuned sydd yn mynd i gael eu heffeithio fwyaf.”

Dywed ei fod yn bryderus ynghylch sut y bydd cau’r banciau yn effeithio ar fusnesau a mudiadau bach sy’n defnyddio arian parod.

“Mae’n amhosibl cael arian i mewn ar-lein os oes arian parod gyda chi yn y til, ac felly mae’n rhaid iddyn nhw deithio’n bell iawn i roi’r arian yma yn y banc ac mae hynny’n gost ychwanegol arnyn nhw,” meddai.

Mae’n gobeithio y byddai Banc Cymunedol i Gymru, sef Banc Cambria, yn mynd i’r afael â hyn ac yn sicrhau gwasanaethau wyneb i wyneb i’r rheiny sydd ei angen.

“Y bwriad yw y bydd y banc hwn yn dod yn eiddo i bobol Cymru ac y bydd canghennau yn cael eu sefydlu ledled y wlad,” meddai.

“Edrych ymlaen” at adroddiad

Mae disgwyl y bydd adroddiad gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, ar sefyllfa’r banc hwn yn cael ei gyhoeddi cyn gwyliau’r haf, a dywed Cefin Campbell ei fod yn “edrych ymlaen yn fawr am ddiweddariad” o fwriadau Llywodraeth Cymru.

Dywed ei fod yn credu bod sicrhau gwasanaethau wyneb yn wyneb yn gam llawer pwysicach na cheisio annog pobol hŷn i ddefnyddio bancio ar-lein.

“Mae rhywun yn gorfod cydnabod bod y rhan fwyaf ohonon ni wedi newid ein patrwm bancio ac yn gwneud bancio ar-lein,” meddai.

“Ac oes, mae angen cefnogaeth ar bobol ar sut i ddefnyddio technoleg, ond mae’n rhaid i ni gofio nad oes gan lawer iawn o bobol y dechnoleg beth bynnag.

“Dw i’n meddwl am fy mam-yng-nghyfraith sydd yn ei hwythdegau, does ganddi hi ddim cyfrifiadur neu iPad, neu ffôn hyd yn oed sy’n ddigon soffistigedig i fancio ar-lein.

“Felly, yn absenoldeb technoleg, beth mae pobol fel fy mam-yng-nghyfraith fod i’w wneud pan mae banciau’n cau?”

Prosiect Banc Cambria

Roedd y prosiect Banc Cambria, sy’n cael ei gyflawni gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ar faniffesto Llafur ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021.

Fodd bynnag, oherwydd costau uchel a thrafferthion ariannol, cafodd y cynllun ei ddal yn ôl dros dro.

“Rwy’n cydnabod bod Banc Cymunedol yn fenter fasnachol ar ran Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ac nad ydynt wedi derbyn unrhyw arian cyhoeddus i wneud hyn,” meddai Vaughan Gething.

“Maen nhw wedi datblygu’r weledigaeth ar sail gwaith a wnaed gan Cambria Cydfuddiannol Cyf, ac wedi ymrwymo i gyflwyno Banc Cymunedol sy’n llwyddiannus, yn gynaliadwy, ac a fydd â phresenoldeb ar y stryd fawr ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i gefnogi’r gwaith o ddarparu Banc Cymunedol.

“Rydw i, ynghyd â nifer o bobol eraill, yn awyddus i weld yr uchelgais yma’n cael ei wireddu cyn gynted â phosib.

“Er ei bod yn siom fod yr amodau economaidd yn effeithio ar gynlluniau, ein nod yn y pen draw yw darparu Banc Cymunedol sy’n cefnogi newid strategol yn y farchnad a’r dewisiadau sydd ar gael i gwsmeriaid.”