Mae disgyblion sy’n rhan o Glwb Amrywiaeth yng Nghaerdydd a Chasnewydd wedi bod yn cynhyrchu ffilmiau i egluro pam bod angen mwy o athrawon du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Cafodd ffilmiau’r disgyblion o Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf eu dangos yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn ddiweddar.
Wrth rannu eu profiadau, eu syniadau a’u teimladau, mae’r grŵp wedi dod yn gyswllt rhwng disgyblion ac athrawon, sydd wedi datblygu eu cwricwlwm i greu amgylchedd cynhwysol.
Mae rhaglen ddogfen wedi cael ei chynhyrchu hefyd, sy’n dilyn y myfyrwyr wrth iddyn nhw greu chwe ffilm fer.
Dywedodd Gwen sy’n rhan o’r Clwb Amrywiaeth ei bod hi’n “rili bwysig i gael modelau rôl i blant o grwpiau ethnig lleiafrifol, er mwyn iddyn nhw allu gweld pobol mewn llefydd o bŵer a gweld pobol fel nhw mewn rolau pwysig o fewn cymdeithas”.
Cynrychiolaeth ‘ddim digon da’
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y bydden nhw’n rhoi hyd at £5,000 i unigolion cymwys sydd am ddod yn athrawon dan hyfforddiant fel rhan o’r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol.
Y nod yw cefnogi ymdrechion i sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
Mae hanesion a phrofiadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru hefyd.
Roedd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn Theatr Glan yr Afon ar gyfer dangosiadau cyntaf o’r ffilmiau.
“Mae disgyblion Llanwern a Glantaf wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol yn eu Clwb Amrywiaeth,” meddai Jeremy Miles.
“Mae’r ffilmiau maen nhw wedi’u cynhyrchu yn helpu i ddangos i ni pam mae hi mor bwysig bod pobl ifanc yn gallu eu hadnabod nhw eu hunain a’u profiadau yn eu hathrawon a’u harweinwyr.
“Mae llai na 2% o’n gweithlu addysgu o gefndir du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol. Yn syml, dyw hynny ddim yn ddigon da.
“Dw i wedi ymrwymo i gynyddu cynrychiolaeth o fewn ein gweithlu addysg.”