Mae teulu gollodd wraig a mam i ganser wedi bod yn cerdded i godi arian at elusennau canser, gan godi swm sylweddol.
Cerddodd ei mab Iago Rhys, sy’n 19 oed, y 14 Peaks ac mae ei gŵr, Aled Griffith, wedi cwblhau her arfordir Cymru.
Bydd y ddau, er cof am Siân – sydd hefyd yn fam i Gruff ac Enlli – yn cerdded Moon Walk Llundain ar Fai 20.
“Rwyf i a Gruff sy’n 14 oed yn cymryd rhan yn Moon Walk Llundain ym mis Mai,” meddai. Aled Griffith.
“Rydym yn casglu arian i Ymchwil Canser y Fron.
“Ym Mehefin 2021, fe gollon ni Siân i ganser ar ôl brwydr fer o 17 wythnos yn 49 oed.
“Yng Ngorffennaf 2021, casglodd Iago dros £11,000 i Ward Cancr Alaw, Bangor yn dilyn cerdded sialens 14 Peaks – pob mynydd dros 3,000 troedfedd yn Eryri, a cherdded am 20 awr.
“Cerddais yn sialens arfordir Cymru fis Medi diwethaf, 48 milltir mewn 21 awr, er mwyn codi arian i ward canser i blant yn Ysbyty Gwynedd, ac ym mis Mai bydda’ i a Gruff yn cerdded yn Moon Walk Llundain, sy’n 26.2 milltir.
“Byddwn yn cychwyn am hanner nos ar Fai 20.”
Teimlo’n bositif
Wrth i’r tad a’r mab baratoi i gerdded milltiroedd, maen nhw mewn hwyliau da ac wedi paratoi’n drwyadl.
“Rydym yn teimlo’n iawn am wneud y Moon Walk,” meddai Aled Griffith.
“Rydym eisiau gwneud rhywbeth i hel arian a chael y profiad.
“Mae Gruff yn gwneud y nofio ac felly mae o reit ffit, bosib bod o fwy ffit na fi!
“Rwy’n trio cerdded ryw 80 milltir yn ystod y dydd, wel bob dydd, ond rwy’n cerdded ychydig beth bynnag.
“Dyna beth ydy fy hobi i fwy na dim byd ydy cerdded.”