Mae cais i dynnu arwyddion oddi ar gangen o Fanc Lloyds yn Llanbed yng Ngheredigion wedi cael ei gyflwyno i gynllunwyr y sir, wrth i’r banc baratoi i gau ei ddrysau fis nesaf.
Cyhoeddodd Banc Lloyds y llynedd y byddai cangen Stryd Fawr Llanbed yn cau ar Fai 15.
Daeth y penderfyniad yn dilyn gostyngiad yn nifer y bobol sy’n defnyddio’r gangen i fancio, gyda mwy o bobol yn bancio ar-lein neu dros y ffôn, meddai Lloyds yn y gorffennol.
Mae’n un o nifer o ganghennau ledled y Deyrnas Unedig fydd yn cau yn 2023, a’r ail fanc yn y dref i gau ei ddrysau mewn llai na blwyddyn, ar ôl i Barclays gau ar Awst 23 y llynedd.
Mae cais bellach wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion i dynnu arwyddion allanol, gan gynnwys arwyddion enw’r gangen, ffenest uwchben drws y fynedfa, ac arwydd siglo ar yr adeilad rhestredig Gradd II yn 9 Stryd Fawr.
Y cais
“Mae’r cais hwn ar gyfer cau’r banc, gyda’r holl hysbysebion yn cynnig Gwasanaethau Banc Lloyds yn cael eu tynnu,” meddai’r asiant Harvi Paul o T and D Group, ar ran Grŵp Bancio Lloyds, mewn datganiad treftadaeth gafodd ei gyflwyno.
“Yr holl newidiadau cefndirol wedi’u cwblhau, wedi’u tynnu â gorffeniad cefndir wedi’i gwblhau.
“Gallai gwaith manwl gynnwys tynnu’r holl farchnata a hysbysebion ac arwyddion yn ymwneud â Banc Lloyds a’i wasanaethau.
“Bydd yr arwydd siglo a llythrennau unigol yr arwydd yn cael eu tynnu gydag unrhyw waith carreg sydd wedi’i effeithio yn cael ei drwsio a thyllau’n cael eu llenwi â mortar cyfatebol neu sêl polyswlffid gwrth-ddŵr yn dibynnu ar faint tyllau neu ddiamedr meintiau bollt a.y.b. a thyllau’n cael eu paentio fel eu bod yn cyfateb os oes angen.
“Ymhellach, bydd yr holl ategolion rhydd allanol yn cael eu tynnu gyda gwasanaethau’n cael eu datgysylltu oddi wrth yr adeilad.
“Does dim newid i wyneb presennol yr adeilad.”
Bancio cymunedol
Yn flaenorol, mae Lloyds wedi dweud y bydd banciwr cymunedol yn ymweld â’r dref am gyfnod byr ar ôl cau’r gangen i ddarparu cefnogaeth a chyngor i ddeiliaid cyfrifon personol a busnes.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o ganghennau wedi’u cau yn y sir, gan gynnwys Barclays yn Llanbed (2022), Aberaeron (2019), Llandysul (2017) a Chastellnewydd Emlyn (2018).
Bydd y cais yn cael ei ystyried gan gynllunwyr y sir maes o law.