Ddylai logos ddim bod yn orfodol ar wisg ysgol, yn ôl Ysgrifennydd Addysg Cymru, sy’n dweud y dylai gwisg ysgol fod yn rhatach.

Mae Jeremy Miles wedi gofyn i ysgolion flaenoriaethu sicrhau bod gwisg ysgol yn rhatach, gan ddweud ei bod hi’n “gwbl hanfodol” eu bod nhw’n fforddiadwy.

Daw’r canllawiau newydd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau gwisg ysgol, oedd yn gofyn barn am fforddiadwyedd er mwyn cefnogi teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Roedd 56% yn cytuno na ddylai fod angen logos ar wisgoedd, tra bo 27% yn anghytuno.

Roedd 90% o’r ymatebwyr hefyd yn teimlo y dylai ysgolion osgoi cytundebau gydag un cyflenwr.

Mae’r canllawiau newydd yn galw am roi trefniadau yn eu lle fel bod gwisgoedd ysgol ail law ar gael i rieni a gofalwyr.

‘Pryder i nifer’

Dywed Comisiynydd Plant Cymru eu bod nhw wedi clywed gan bron i 9,000 o blant a 900 o rieni a gofalwyr y llynedd, fel rhan o’r ymgynghoriad.

“Roedd y neges yn glir: mae plant yn poeni am eu teuluoedd yn fforddio’r pethau angenrheidiol, ac mae rhieni yn gweld hi’n anodd ymdopi gyda phrisiau ystod eang o nwyddau gwahanol,” meddai Rocio Cifuentes.

“Roedd talu am wisg ysgol yn bryder i nifer, felly rydw i’n croesawu’r ffocws pwysig yma ar fforddiadwyedd fel rhan o’r canllaw newydd.”

Ychwanega Jeremy Miles ei fod yn galw ar gyrff llywodraethu ysgolion i adolygu eu polisïau i sicrhau bod fforddiadwyedd yn cael y flaenoriaeth.

“Rydym yn gwybod bod gwisgoedd ysgol wedi’u brandio yn gallu bod yn llawer drutach i deuluoedd – dyna pam na ddylai ysgolion eu gwneud yn orfodol,” meddai.

“Yn sicr, ni ddylai fod gofyniad i nifer o eitemau fod wedi’u brandio.

“Rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud popeth y gallant i gadw costau lawr i deuluoedd.

“Ond rydym yn dal i weld gormod o achosion lle mae teuluoedd wedi gorfod prynu gwisgoedd drud.”

‘Cefnogaeth i redeg siopau dillad ail law’

Mae undeb addysg NEU Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud na ddylai teuluoedd orfod gwario ar wisg ysgol arbennig yn ystod argyfwng costau byw.

“Bydd ein haelodau’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwrando arnom o ran gwisg ysgol, gan fod gwneud gwisgoedd ysgol yn fforddiadwy’n un o’r pethau oeddem ni’n gofyn amdano yn ein maniffesto cyn etholiadau diwethaf y Senedd,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Cymru, NEU Cymru.

“Mae gostwng y gost o fynd i’r ysgol yn bwysig i’n haelodau.

“Er ein bod ni’n llwyr gefnogi’r syniad o ysgolion yn rhedeg siopau dillad ysgol ail law ac ati, bydden ni wedi croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i wneud hynny.

“Fel y gwyddom, mae adnoddau ysgolion yn gyfyngedig, felly bydd gofyn iddyn nhw wneud mwy, heb gyllid ychwanegol, yn her mewn rhai ardaloedd, a dylid cydnabod hynny.”

‘Opsiynau amgen ar gael yn barod’

Cafodd y syniad o gael gwared ar logos ar wisg ysgol ei awgrymu yn 2018 gan y cyn-Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Llywodraeth Cymru’n llusgo’u traed wrth weithredu ar y gefnogaeth.

“Mae pryderon ynglŷn â chostau byw wedi gwaethygu pryderon ariannol, ond mae’r problemau a’r datrysiadau dal yr un peth,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y blaid.

“Mae yna opsiynau amgen ymarferol ar gael yn barod, er enghraifft gwnïo neu smwddio labeli ymlaen – mae angen i hynny gael ei hyrwyddo a’i gynnig i rieni, fel bod gan rieni ddewis pan mae hi’n dod at wisg ysgol.”