Mae bron i 15,000 o bobol yn defnyddio gwasanaethau gofal brys ac argyfwng yn y gymuned ac yn osgoi cael eu derbyn i ysbytai bob mis, yn ôl data newydd.

Flwyddyn yn ôl, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio Rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, yn y gobaith o leihau’r pwysau ar ofal brys.

Yn ôl y data diweddaraf, mae 10,000 o bobol yn ddefnyddio Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys bob mis, a 4,500 yn cael eu gweld mewn gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod.

Ers i’r rhaglen gael ei lansio fis Ebrill y llynedd, mae 13 Canolfan Gofal Sylfaenol Brys wedi cael eu sefydlu dros Gymru, ac mae deuddeg gwasanaeth Gofal Argyfwng Un Diwrnod yn gweithredu ledled y wlad.

Mae ystadegau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n dangos bod tua 75% o’r cleifion sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, ac yn dychwelyd adref heb orfod aros mewn ysbytai.

Data diweddaraf gofal brys

Mae’r data ar gyfer mis Mawrth eleni’n dangos mai 47.% o alwadau ambiwlans coch, y galwadau â’r mwyaf o frys, gyrhaeddodd o fewn y targed o wyth munud.

Roedd hyn 3.5% yn is nag ym mis Chwefror y llynedd, a 3.6% yn is nag ym mis Mawrth y llynedd, a’r isaf ond un ers mis Mai 2019.

Bu gostyngiad hefyd yn nifer y cleifion dreuliodd lai na phedair awr mewn adrannau achosion brys, yn ôl y ffigurau diweddaraf ar berfformiad y Gwasanaeth Iechyd.

Cafodd 69.5% o gleifion eu gweld o fewn pedair awr, o gymharu â 71.5% ym mis Chwefror, sy’n is na’r targed o 95%.

Ond bu 2,879 o ymweliadau ag adrannau brys bob dydd ar gyfartaledd, sy’n fwy nag ym mis Chwefror.

Galw “uwch nag erioed”

Yn ystod ail flwyddyn y Rhaglen ‘Chwe Nod’, bydd Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar gefnogi byrddau iechyd i gyrraedd nodau eraill, gan gynnwys:

  • Darparu gwasanaethau saith diwrnod, a chynyddu capasiti gwasanaethau gofal sylfaenol brys y tu allan i oriau arferol, fel rhan o symud tuag at fodel gofal brys 24 awr, saith diwrnod yr wythnos.
  • Lleihau’n ddiogel nifer y cleifion 999 sy’n cael eu trosglwyddo i Adrannau Achosion Brys.
  • Cynyddu ymhellach nifer y bobol sy’n defnyddio gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod ac yn cael eu rhyddhau i fynd adref ar yr un diwrnod.

Dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, fod y galw yn y system gofal brys ac argyfwng wedi bod yn “uwch nag erioed” dros y gaeaf diwethaf.

“Mae’r data diweddaraf yn dangos bod nifer y galwadau ambiwlans coch 93% yn uwch ym mis Mawrth 2023 nag ym mis Mawrth 2019,” meddai.

“Heb ein rhaglen Chwe Nod a’r ffaith ein bod ni wedi darparu mwy na 600 o welyau ychwanegol yn y gymuned, gallai pethau wedi bod yn llawer gwaeth y gaeaf hwn.

“Er gwaethaf y pwysau ychwanegol, mae’r perfformiad mewn adrannau brys mawr yng Nghymru wedi bod yn well na’r perfformiad yn Lloegr yn ystod y saith mis diwethaf ac wedi aros yn sefydlog, yn wahanol i bob rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

“Ers lansio’r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, rydyn ni wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran cyfeirio pobol at y gwasanaethau sy’n briodol i’w hanghenion, lleihau nifer y cleifion sy’n cael eu trosglwyddo i’r ysbyty mewn ambiwlans ac o ran helpu mwy o bobol i gael mynediad i ofal brys yn eu cymunedau lleol.

“Mae data’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn dangos y bu gostyngiad yn nifer y bobol sy’n treulio cyfnodau hir mewn gwelyau ysbytai, a dylai hynny gefnogi canlyniadau gwell.”