Mae grŵp cynghori sy’n cynnwys pobol o bob rhan o Gymru sydd â phrofiad uniongyrchol o anghydraddoldebau iechyd meddwl wedi mynegi siom ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd ar y mater.

Yn ôl y grŵp cynghori ar-lein, fu’n gweithio gyda Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd drwy gydol eu hymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl, mae’n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru yn “ochrgamu a pheidio ymrwymo i unrhyw beth pendant”, a bod ymateb y Dirprwy Weinidog yn “ymddangos fel rhestr o esgusodion”.

Bydd adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, Cysylltu’r Dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mai 3).

Cyn y ddadl, mae crynodeb o adborth y grŵp cynghori ar ymateb Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi.

Teimla aelodau’r grŵp fod rhai o ymatebion y Dirprwy Weinidog yn rhy gryno ac yn dangos diffyg dealltwriaeth ynghylch y problemau mae pobol sy’n destun anghydraddoldebau iechyd meddwl yn eu hwynebu.

Ar y cyfan, roedden nhw’n teimlo nad oedd yr ymateb yn cyd-fynd ag uchelgais adroddiad y Pwyllgor.

Adborth

Rhai enghreifftiau o adborth y grŵp cynghori:

  • “Yr un peth nad oedden ni eisiau oedd geiriau gwag i’n cadw’n dawel, a dyna maen nhw wedi’i wneud yn syth gyda’r argymhelliad cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn derbyn yr argymhelliad hwn ond a yw hynny’n wir mewn gwirionedd? Sut?”
  • “Dwi wedi cael llond bol ar glywed “Rhywbeth i Lywodraeth y DU yw hynny”. Roedd ein grŵp yn siarad yn benodol am iechyd, am dai, am ddigartrefedd a does dim am hynny yma. Rwy’n gwrthod credu mai problem Llywodraeth y DU yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.”
  • “Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn ymddangos fel rhestr o esgusodion. Fe ofynnon ni’n benodol am fap ffordd, llinell amser, a chamau gweithredu penodol iawn ac nid yw’r ymateb wedi darparu’r map ffordd a’r amserlenni ond mae hefyd yn rhestru pethau sydd eisoes wedi digwydd. Mae fel petai Llywodraeth Cymru’n dweud ‘Edrychwch beth rydyn ni wedi’i wneud, does dim angen i ni wneud mwy’. Mae wedi anwybyddu manylion yr argymhellion. Mae’n siomedig iawn.”

‘Annerbyniol’

Yn ôl James Evans, llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r sefyllfaoedd sydd wedi’u crybwyll yn yr adborth gafodd ei dderbyn yn “annerbyniol”.

“Mae yna rai profiadau hynod bryderus wedi’u hadrodd gan aelodau’r grŵp cynghori, gyda phobol yn dioddef o faterion iechyd meddwl yn teimlo’n siomedig, wedi’u troi i ffwrdd ac wedi’u diflasu gan ymateb Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Nid yn unig mae’r ffaith fod hyn wedi digwydd yn esgeulus, ond mae hefyd yn beryglus, yn syml iawn.

“Does dim angen i bobol sy’n ei chael hi’n anodd o ran materion iechyd meddwl deimlo fel pe bai eu profiadau’n cael eu hanwybyddu.

“Mae angen cefnogaeth, tosturi a dealltwriaeth arnyn nhw.

“Dyna pam ein bod ni’n ymgyrchu dros ganolfannau argyfwng 24 awr ar gyfer pobol mewn angen mawr, i ffwrdd oddi wrth leoliadau llawn straen fel adrannau brys traddodiadol.

“Does dim byd yn crisialu’r Llywodraeth Lafur hon yn fwy nag un cyfranogwr yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi llongyfarch eu hunain tra eu bod nhw’n anwybyddu nodweddion penodol argymhellion y pwyllgor o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl.

“Mae’r ffaith fod hyn mor ragweladwy gan Lywodraeth Cymru yn annerbyniol.”

‘Gweledigaeth uchelgeisiol’

“Ar y cyfan, mae ein hadroddiad yn darparu gweledigaeth uchelgeisiol a gobeithiol ar gyfer lleihau anghydraddoldebau a gwella iechyd meddwl a lles yng Nghymru,” meddai Russell George, cadeirydd y pwyllgor.

“Fodd bynnag, fel Pwyllgor, rydym yn rhannu siom ein grŵp cynghori ar-lein nad yw’r ymateb yn adlewyrchu uchelgais ein hadroddiad yn llawn.

“Ein neges ganolog yw na fydd iechyd meddwl a lles y boblogaeth yn gwella oni bai bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl gwael, gan gynnwys cydnabod a mynd i’r afael ag effaith trawma.

“Rydym am i’r neges hon, ac uchelgais clir i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl, fod yn ganolog i strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru.

“Rhan o’n rôl yw denu sylw at brofiadau pobl a chwyddo eu lleisiau ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at ein gwaith.

“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i gyfranogwyr y grŵp cynghori ar-lein am eu barn, eu profiad, eu harbenigedd a’u herio adeiladol wrth i ni baratoi ein hadroddiad ac ystyried ymateb Llywodraeth Cymru.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o’r 27 o argymhelliad yn yr adroddiad, ac eithrio un.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yn flaenoriaeth i ni ac rydym wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, pob un ond un o 27 o argymhellion yr adroddiad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Trwy gydol 2023 byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, i ddatblygu strategaeth i ddilyn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, gan adeiladu ar nod y strategaeth bresennol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.”