Mae cwest wedi clywed bod dyn o Abertawe wedi marw ar ôl cwympo i mewn i afon Thafwys yn Llundain tra ei fod e’n siarad â’i gariad dros FaceTime.

Roedd James East, oedd yn 25 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gŵyr, wedi bod allan â’i gariad Arabella Ashfield yn ne-orllewin Llundain ar Fedi 25 y llynedd.

Ar ôl iddyn nhw gael eu gwahanu yn ystod y noson, fe wnaeth e ei ffonio i gwrdd eto, ond fe gwympodd wrth iddo geisio eistedd ar wal pont Kingston.

Fe gwympodd yn ôl, gan daro’i ben ar y bont cyn cwympo i mewn i’r afon, a daeth y bad achub o hyd iddo â’i wyneb i lawr yn y dŵr.

Fe gafodd e driniaeth yn y fan a’r lle, ond bu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad ei fod e wedi bod yn cymryd cocên, a daeth yr heddlu o hyd i’r cyffur ger ei ffôn yn agos i’r fan lle cwympodd.

Dywedodd ei gariad ei fod e wedi ymddiheuro wrthi yn ystod yr alwad ar FaceTime, cyn iddo bwyso’n ôl a chwympo, ac roedd hi wedi ei glywed yn glanio yn y dŵr.

Rhedodd hi ar unwaith tua’r bont ond doedd hi ddim yn gallu dod o hyd iddo, a ffoniodd hi’r heddlu.

Rheithfarn

Clywodd y cwest fod yr heddlu wedi dod o hyd i’w gariad wrth chwilio am James East.

Roedden nhw newydd brynu ci bach, ac yn bwriadu prynu tŷ.

Roedd James East yn ymwybodol iawn o iechyd, ac roedd e wedi bod yn paratoi i redeg marathon Llundain yr wythnos ganlynol.

Roedd yn bêl-droediwr dawnus, ac fe gafodd ei brofion gyda Chaerlŷr ac ambell glwb yn Awstralia.

Chwaraeodd e i glybiau Pontardawe a Garden Village yn Abertawe, yn ogystal â thîm ieuenctid Port Tennant, a hynny’n bennaf fel chwaraewr canol cae.

Roedd yn cefnogi Abertawe a Spurs.

Dywedodd ei fam fod ei mab a’i gariad yn hapus yn ystod eu 18 mis gyda’i gilydd.

Dywedodd y crwner fod gormod o bobol yn marw ar ôl cwympo i mewn i afon Tafwys, a daeth i’r casgliad fod James East wedi marw’n ddamweiniol, ac nad oedd alcohol na chocên wedi cyfrannu at ei farwolaeth.