Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod nhw’n poeni am “effaith ehangach” yr honiadau o fwlio yn S4C ar “enw da ein darlledwr Cymraeg”.

Daw hyn ar ôl i’r cadeirydd Rhodri Williams gyhoeddi bod cwmni cyfreithiol wedi cael eu penodi i ymchwilio i’r honiadau, gan gynnwys “diwylliant o ofn”.

Derbyniodd rhaglen Newyddion S4C lythyr o gyfeiriad e-bost anhysbys yn honni bod staff y sianel yn cael eu hanwybyddu a’u tanseilio gan y tîm rheoli, ac “yn aml yn eu dagrau”.

Mewn llythyr at aelodau annibynnol bwrdd S4C, mae swyddog undeb Bectu yn dweud bod “diwylliant o ofn” yno, a staff “yn rhy ofnus” i siarad am eu profiadau ar ffurf cwynion.

Soniodd y llythyr fod pedwar aelod o staff yn eu dagrau yn ystod cyfarfod gyda’r undeb yr wythnos ddiwethaf.

Cwmni Capital Law fydd yn arwain yr ymchwiliad annibynnol, meddai Rhodri Williams, cadeirydd S4C.

Dywed fod yr honiadau’n “achosi gofid” i’r sianel, ond eu bod nhw wedi ymateb yn y “modd priodol… gyda’r cyflymder angenrheidiol” a’u bod nhw’n barod i gymryd y “camau angenrheidiol” i ddatrys y sefyllfa.

‘Hynod o bryderus’

Wrth ymateb i’r sefyllfa yn S4C, dywed Tom Giffard, llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r “honiadau hyn yn hynod o bryderus, yn enwedig yr effaith ehangach ar enw da ein darlledwr Cymraeg cenedlaethol”.

“Dw i’n croesawu’r ffaith fod cwmni cyfreithiol allanol annibynnol wedi cael eu penodi i ymchwilio i’r hyn oedd wedi digwydd,” meddai.

“Mae’n hanfodol fod staff ar bob lefel yn dod ymlaen ar yr adeg hon i rannu eu profiadau a bod S4C yn ymgysylltu’n llawn â’r ymchwiliad.”