Bydd Cyngor Ceredigion yn ystyried newid cyfrwng iaith pum ysgol gynradd yn y sir i Gymraeg.

Fe fydd proses ymgynghori yn dechrau yn fuan i ystyried newid cyfrwng iaith yn y Cyfnod Sylfaen yn ysgolion Comins Coch, Llwyn yr Eos ym Mhenparcau, Padarn Sant yn Llanbadarn, Plascrug yn Aberystwyth, a Cheinewydd.

Daw hyn wedi i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion benderfynu cymeradwyo camau nesaf Cynllun Gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-23.

Mae’r Cynllun Strategol yn cynnwys saith elfen er mwyn cryfhau’r Gymraeg, ac un ohonyn nhw yw creu mwy o gyfleoedd i blant o bob oed dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn bennaf.

“Trwy gyflwyno a gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, rydym am roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a galluogi pobol o bob oed i ddysgu, sef un o amcanion corfforaethol y Cyngor dros y bum mlynedd nesaf,” meddai’r Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

“Mae’r cynnig hefyd am gefnogi dyhead Cyngor Sir Ceredigion i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg drwy ei Strategaeth Iaith, a chefnogi nod Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Y nod felly yw addysgu disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd, a’u galluogi i gymryd rhan lawn yn y gymuned ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.”

Fe wnaeth y Cabinet gytuno i ddechrau’r broses ymgynghori ar gyfer y pum ysgol mewn cyfarfod ddoe (Mai 2), ac mae disgwyl i’r dogfennau ymgynghori ar newid cyfrwng iaith yr ysgol gael eu cyhoeddi yn ystod yr hydref.