Mae’r ffaith nad yw cyrff Cymreig – fel byrddau iechyd ac arbenigwyr ar ofal cymdeithasol – yn cael statws fel ‘cyfranwyr craidd’ yn ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig hyd yn hyn yn peri pryder, medd Plaid Cymru.

Yn ôl y blaid, mae peidio â chynnwys cyrff o’r fath yn rhan o’r ymchwiliad yn golygu na fydd Cymru’n cael ei chynrychioli’n iawn ac na fydd craffu ar y penderfyniadau gafodd eu gwneud ym Mae Caerdydd.

Mae ymgyrchwyr, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw dro ar ôl tro am ymchwiliad penodol i Gymru.

Fodd bynnag, mae Mark Drakeford wedi gwrthod gan ddweud nad ydy hi’n bosib ystyried y penderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru heb ystyried y cyd-destun ehangach ledled y Deyrnas Unedig.

Dechreuodd y trydydd gwrandawiad cychwynnol yr wythnos ddiwethaf, ac ymhen chwe wythnos fe fydd gwrandawiad cyntaf Modiwl 1 yn cael ei gynnal.

“Onid yw hi’n peri pryder gwirioneddol bod yna ddim tystion arbenigol wedi cael eu hapwyntio gydag arbenigedd ar Gymru, hyd at Fawrth 23 beth bynnag,” gofynnodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Mai 2).

Mae’r ffaith nad yw cyrff fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac ADSS Cymru, y corff sy’n arwain Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, yn cael eu trin fel cyfranwyr craidd i’r ymchwiliad yn “rheswm arall pam ein bod angen ymchwiliad Cymreig”, meddai’r blaid.

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ei bod hi’n iawn fod Adam Price wedi mynd â’i bryderon at gadeirydd ymchwiliad y Deyrnas Unedig, y Farwnes Hallett, a bod y mater yn un iddi hi ei ddatrys.

‘Pryderus’

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod hi’n “gywilyddus” fod gweinidogion Llafur Llywodraeth Cymru’n osgoi’r craffu.

“Dim ond wythnos diwethaf, fe wnaethon ni glywed datganiad damniol gan y grŵp Covid Bereaved Families yn dangos pryder bod Llywodraeth Cymru’n hwyr yn darparu’r holl ddogfennau perthynas i’r ymchwiliad oherwydd bod dogfennau ar goll yn y drafft cyntaf o’u datganiadau tyst,” meddai Andrew RT Davies.

“Ynghyd â hynny, mae yna bryder na fydd y tystion arbenigol sydd wedi cael eu galw yn deall digon ar y broses ddeddfu yma yng Nghymru i roi’r wybodaeth lawn i’r ymchwiliad.

“Yn ystod y pandemig fe wnaeth Mark Drakeford benderfynu gwyro oddi wrth y penderfyniadau gafodd eu gwneud ar lefel y Deyrnas Unedig, ond nid yw’n barod i gael craffu ar y llwybr ddewisodd ei gymryd.

“Mae Cadeirydd Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig wedi cyfaddef hyd yn oed bod ganddi hi ddim yr amser i ymchwilio i faterion yng Nghymru’n llawn drwy ei gwaith.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn gwthio am Ymchwiliad Covid Annibynnol Cymreig i edrych ar bob agwedd a sicrhau bod teuluoedd sy’n galaru’n cael yr atebion maen nhw’n eu haeddu.”

Yr ymchwiliad “â’r holl bwerau”

Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn i’r ymchwiliad ddechrau er mwyn sicrhau bod gan yr ymchwiliad y pwerau i ddod o hyd i dystiolaeth gan ba bynnag dystion maen nhw’n eu dewis er mwyn ystyried y penderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru.

“Fel tyst fy hun, alla i ddim trio dylanwadu ar yr ymchwiliad o ran pwy maen nhw eu galw am dystiolaeth,” meddai’r Prif Weinidog.

“Dw i’n hyderus, o’r trafodaethau ges i â’r Prif Weinidog ar y pryd, fod gweithdrefnau’r ymchwiliad wedi cael eu creu mewn ffordd sy’n cynnig ymchwiliad annibynnol – eu bod nhw’n gorfod penderfynu pwy maen nhw eisiau clywed ganddyn nhw.

“Mae gan yr ymchwiliad yr holl bwerau i allu gwneud y gwaith pwysig hwnnw – a dw i’n cytuno gyda phwyntiau arweinydd yr wrthblaid: mae’n bwysig bod yr ymchwiliad yn gallu gwneud hynny.

“Mae ganddo’r pwerau sydd ei angen arno, a rhaid i ni ganiatáu iddo ddefnyddio’r cyfrifoldebau hynny mewn ffordd annibynnol.”