Cafodd 52 o weriniaethwyr, gan gynnwys arweinydd y grŵp Republic, eu harestio ar ddiwrnod coroni’r Brenin Charles ddydd Sadwrn (Mai 6).

Yn ôl yr heddlu, roedd eu dyletswydd i atal protestwyr rhag tarfu ar y digwyddiadau’n fwy o flaenoriaeth na hawl pobol i brotestio.

Daeth cannoedd o brotestwyr ynghyd ar strydoedd Llundain, gan ddal arwyddion yn dweud ‘Nid Fy Mrenin i’.

Cafodd Graham Smith, arweinydd Republic, ei arestio cyn i’r brotest ddechrau, ac roedd lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol o’r heddlu’n mynd ag arwyddion oddi arnyn nhw.

Yn ôl Heddlu Llundain, cawson nhw wybod fod protestwyr “yn benderfynol o darfu ar brosesiwn y coroni”, a hynny ar ôl i Republic addo’r brotest wrth-frenhinol fwyaf ers cyn cof.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau pwy gafodd eu harestio i gyd, ond dywedon nhw iddyn nhw weithredu oherwydd y pryder y gallai eiddo gael ei ddifrodi ac er mwyn gwarchod diogelwch y cyhoedd.

Roedd protestiadau yng Nghaerdydd a Glasgow hefyd, gyda’r protestwyr yn galw am “ddiddymu’r frenhiniaeth a bwydo’r bobol”.

Llai o gefnogaeth

Daw’r brotest wrth i’r polau awgrymu bod llai o gefnogaeth i’r frenhiniaeth erbyn hyn, ac mai pobol ifanc sydd leiaf cefnogol.

Mae gweriniaethwyr yn gobeithio mai Charles fydd brenin olaf Lloegr.

Ers i Charles ddod yn Frenin Lloegr, fe fu protestiadau yn ei erbyn yn Abaty Westminster a Chaerefrog.

Mae gwledydd eraill y byd, y rhai sydd yn rhan o’r Gymanwlad ac sydd â’r Brenin yn bennaeth arnyn nhw, bellach yn trafod a ddylen nhw barhau i gael eu harwain ganddo fe.

Yn y Deyrnas Unedig, mae’r rhan fwyaf yn dal o blaid y frenhiniaeth, ond mae’r nifer wedi bod yn gostwng dros gyfnod o amser.

Fis diwethaf, dangosodd pôl gan YouGov fod 64% heb fawr ddim diddordeb yn y coroni, os o gwbl – 75% oedd y ffigwr ymhlith pobol 18 i 24 oed.