Efallai y daw penderfyniad Michelle O’Neill, dirprwy lywydd Sinn Féin, i dderbyn y gwahoddiad i fynd i seremoni coroni’r Brenin Charles III fel tipyn o syndod i rai. Mae’n brotocol i’r fath wahoddiad gael ei estyn i bob plaid wleidyddol arwyddocaol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rheiny yn y rhanbarthau datganoledig a, bellach, Sinn Féin yw’r blaid fwyaf yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, mae hanes yn ffactor sy’n cymhlethu’r achos hwn, a hyd yn oed heddiw mae Sinn Féin yn gwrthod cymryd eu seddi yn senedd San Steffan. Mae hyn yn fynegiant o wrthod cydnabod sofraniaeth Prydain dros Ogledd Iwerddon.

Bydd Sinn Féin yn dadlau bod mynd i goroni Charles ond yn arwydd o berthynas gymdogol barchus yn hytrach nag unrhyw arwydd o ffyddlondeb. Mae hefyd, wrth gwrs, yn gwneud arwydd tuag at unoliaethwyr Wlster. Yn wir, wrth gyhoeddi ei bwriad i fynd i’r digwyddiad, dywedodd O’Neill hynny, gan ddatgan ei bod hi’n “bryd parchu ein huchelgeisiau gwahanol sydd yr un mor ddilys â’i gilydd” yng Ngogledd Iwerddon. Tra ei bod hi’n pwysleisio’i gweriniaetholdeb ei hun, roedd hi hefyd yn cydnabod fod yna “lawer o bobol ar ein hynys y mae’r coroni’n achlysur hynod bwysig iddyn nhw”.

Wrth greu cyd-destun Iwerddon gyfan, roedd O’Neill yn ei hanfod yn ategu ei bod hi’n gwrthod derbyn rhaniad y wlad. Ond mae ei geiriau hefyd yn awgrymu bod yna gynulleidfa ehangach ar gyfer arwydd Sinn Féin. Nid yn unig mae’n arwydd i unoliaethwyr a chymdogion dros y dŵr, ond hefyd i bleidleiswyr yng Ngweriniaeth Iwerddon. Yn wir, gellid dadlau mai’r olaf ohonyn nhw oedd wedi ysgogi symudiad Sinn Féin o ran y goron Brydeinig dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma newid ddechreuodd yn 2011 gydag ymweliad y Frenhines Elizabeth â Gweriniaeth Iwerddon.

Ar yr achlysur hwnnw, sylweddolodd Sinn Féin yn gyflym eu bod nhw’n anghydweld â barn de Iwerddon. Wrth gadw at safiad gweriniaethol traddodiadol, roedd y blaid yn cynnal boicot o ymweliad y Frenhines ond wedyn roedden nhw fel pe baen nhw’n synnu at sut y cafodd hi ei derbyn gan bobol gyffredin, oedd yn rhoi hwrê iddi ac yn ei chymeradwyo mewn amryw o’i hymrwymiadau. Fel pe bai’n ymateb i hynny, penderfynodd Michael Browne, Maer Sinn Féin yn Caiseal, anwybyddu gorchymyn y blaid drwy gyfarfod â’r Frenhines a siglo’i llaw.

Cyfarfodydd symbolaidd

Yn hytrach na chael cerydd, dangosodd gweithredoedd Browne y ffordd ymlaen i’w gydweithwyr o fewn y blaid. Pan ymwelodd y Frenhines â Gogledd Iwerddon y flwyddyn ganlynol, roedd Martin McGuinness yr un mor awyddus i gyfarfod â hi a siglo’i llaw. Fe wnaeth cilyddiant y Frenhines ddarparu delwedd fydd yn aros yn hir yn y cof o broses heddwch Gogledd Iwerddon, a cham oedd yn frith o symbolaeth. Roedd McGuinness yn gyn-gadlywydd yn yr IRA, y mudiad oedd yn gyfrifol am ladd cefnder y Frenhines, yr Arglwydd Mountbatten, yn 1979. Roedd y Frenhines yn bennaeth ar luoedd arfog Prydain, yr oedd eu milwyr wedi lladd 14 o brotestwyr hawliau sifil yn nhref gartref McGuinness yn 1972. Dangosodd eu cyfarfod wrth bawb fod y trais yma yn perthyn i’r gorffennol. Dangosodd y ddau gryn arweiniad yn yr eiliad hon.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach eto, ac roedd McGuinness hefyd yn codi gwydryn i iechyd y Frenhines yn ystod cinio mawreddog ym Mhalas Buckingham, gyda’r achlysur yn dathlu’r ymweliad gwladol cyntaf i’r Deyrnas Unedig gan Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins. Daeth arwyddion pellach o’r ddwy ochr, a hyd yn oed cyn iddo ddod yn frenin, dangosodd Charles ei fod yntau’n awyddus i barhau ag ymdrechion ei fam i adeiladu ar heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Fe wnaeth e gyfarfod a siglo llaw Gerry Adams yn 2015 – gweithred bersonol hefyd o ystyried agosatrwydd Charles a’r Arglwydd Mountbatten, oedd wedi gweithredu fel rhyw fath o fentor i’r tywysog ifanc yn y 1970au.

Ac yntau bellach yn frenin, mae gwahoddiad Sinn Féin i fynd i’w seremoni coroni’n cyd-fynd â’r broses hon o gymodi a normaleiddio’r berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon.

Gwleidyddiaeth glyfar

Mae derbyn y gwahoddiad o safbwynt Sinn Féin yn rhan o’r un ymdrechion, ond mae yna fwriad mwy gwleidyddol iddo hefyd. Ers ymweliad y frenhines yn 2011, mae’r gefnogaeth i’r blaid wedi tyfu’n raddol, gan godi’n sylweddol yn yr etholiad Gwyddelig diwethaf yn 2020, gyda’r holl bolau’n awgrymu y byddan nhw’n ennill yr etholiad nesaf. Felly mae Sinn Féin yn awyddus i ddangos i bleidleiswyr yng Ngweriniaeth Iwerddon eu bod nhw’n barod i arwain y wlad, ac i sicrhau’r rheiny all fod yn teimlo’u bod nhw heb y tact a diplomyddiaeth wleidyddol angenrheidiol i gynrychioli Iwerddon ar lwyfan y byd. Mae perthynas dda â’u cymdogion agosaf – waeth beth oedd y gorffennol anodd, neu’r tyndra mwy diweddar tros Brexit – yn hanfodol ar gyfer hyn. Wrth fynd i goroni’r Brenin Charles, mae Sinn Féin yn dangos eu bod nhw’n barod ar gyfer y dasg.

Bydd gweriniaethwyr gwrthwynebus yn honni bod O’Neill yn “gwerthu ei henaid” wrth fynd i goroni’r Brenin Charles, ond bydd Sinn Féin yn dadlau eu bod nhw’n dal i ddatblygu eu gorchwyl craidd. Bydd mandadau mwyafrifol yn y ddwy ran o Iwerddon yn rhoi hwb i’w gofynion i gynnal refferenda ar ailuno Iwerddon yn y ddwy ddeddfwrfa – fel sy’n cael ei ganiatáu yn ôl telerau Cytundeb Gwener y Groglith, y cytundeb ddaeth â’r gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon i ben.

Yn wir, mae’r bwriad hwn wedi’i godio yn natganiad O’Neill ar y mater. Roedd dweud ei bod hi’n “bryd parchu ein huchelgeisiau gwahanol sydd yr un mor ddilys â’i gilydd” yn golygu cydnabod dyhead unoliaethwyr i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ond hefyd dyhead cenedlaetholwyr i uno Iwerddon. Parhaodd O’Neill drwy ddweud ei bod hi hefyd yn “bryd canolbwyntio’n galed ar y dyfodol a’r cyfleoedd a ddaw dros y degawd nesaf”. Mae Sinn Féin yn mynnu’n aml y dylid cynnal refferenda ar ailuno Iwerddon yn ystod y degawd nesaf, felly mae eu cefnogwyr yn gwybod beth yw ystyr hynny.

Yn y cyfamser, bydd y blaid yn parhau i ddefnyddio eu grym cynyddol yn y ddwy ran o Iwerddon i wthio am fwy o gydweithio ac aliniad rhwng y ddwy ddeddfwrfa, sy’n awgrymu y bydd hyn yn braenaru’r tir ar gyfer ailuno yn y pen draw. Honnodd yr IRA rywdro eu bod nhw mewn “rhyfel hir” i orfodi gwladwriaeth Prydain allan o Ogledd Iwerddon ac i ailuno â’r Weriniaeth. I’r gwrthwyneb, mae Sinn Féin yn chwarae gêm wleidyddol hir, ond un sy’n anelu at yr un nod yn y pen draw.The Conversation

  • Mae Peter John McLoughlin yn Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Queen’s yn Belffast.