Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dweud bod gwallau gan gyrff cyhoeddus wrth gyfieithu i’r Gymraeg yn “cael eu goddef yn rhy aml o lawer”.

Daw sylwadau Llyr Gruffydd, sy’n cynrychioli’r gogledd yn y Senedd, wrth iddo godi’r mater gyda Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

Mae sawl enghraifft o wallau iaith wedi bod yn ddiweddar, gan gynnwys ‘Vogel’ yn lle ’diogel’ mewn rhybudd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ffonau symudol, gyda thechnoleg yn cael y bai.

Ac fe ymddangosodd y gair “rhegi” yn lle “tyngu llw” mewn neges am seremonïau dinasyddiaeth gan y Swyddfa Gartref.

Statws

Dywed Llyr Gruffydd fod gwallau o’r fath yn “anfon neges anffodus iawn o safbwynt statws y Gymraeg”, ac fe ofynnodd i Jeremy Miles ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i godi’r mater.

“Mae pawb yn gweld enghreifftiau—rhai efallai’n fwy anffodus na’i gilydd—o gam-gyfieithu neu gamsillafu o bryd i’w gilydd,” meddai.

“Maen nhw’n ddoniol, efallai, ar yr olwg gyntaf, ond mae nhw’n anfon neges anffodus iawn o safbwynt statws y Gymraeg, pan ein bod ni’n gweld enghreifftiau fel hyn yn cael eu goddef yn rhy aml o lawer.

“Mi welon ni ymarferiad y neges destun gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni mai’r bwriad oedd ein cadw ni’n ‘vogel’ yn lle’n ddiogel.

“Rydym ni hefyd wedi gweld gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ein hannog ni i regi i Dduw omnipotent, yn hytrach na thyngu llw i Dduw hollalluog.

“Ond dydw i ddim jest yn pwyntio bys at Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae yna enghreifftiau anffodus yn digwydd ar draws y sector cyhoeddus.

“A wnewch chi felly, fel Llywodraeth, ysgrifennu at gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru, jest i’w hannog a’u hatgoffa nhw o’u cyfrifoldeb yn hyn o beth, ac efallai cyfleu yr un neges i Lywodraeth y Deyrnas Unedig?”

‘Mwy o bwyslais ar gywirdeb’

“Rwy’n hapus iawn i wneud hynny,” meddai Jeremy Miles wrth ymateb i’r cais.

“Ac efallai petasai llai o bwyslais ar y cwyno yn erbyn enwi Bannau Brycheiniog, a mwy o bwyslais ar gywirdeb, efallai y byddem i gyd yn hapusach.”