Mae pobol wedi bod yn ymateb yn chwyrn ar Twitter i neges gan Lywodraeth Cymru sy’n dathlu “rôl bwysig” y Gymraeg yn seremoni coroni Brenin Lloegr.

Daw hyn ar ôl i’r brenin newydd ofyn i’r cyfansoddwr Cymreig Paul Mealor i gyfansoddi darn yn arbennig yn y Gymraeg ar gyfer yr achlysur.

Bydd ‘Coronation Kyrie’ yn cael ei pherfformio gan Syr Bryn Terfel a Chôr Abaty Westminster, ac mae’r canwr eisoes wedi amddiffyn ei berfformiad yn y seremoni.

“Rhag eich cywilydd,” oedd ymateb Nigel O Ceallacháin i’r neges ar dudalen Twitter Gymraeg y llywodraeth.

“Dic Siôn Dafydd” oedd ymateb David Jarvis, tra bod Dr Mel yn dweud nad yw “talu gwasanaeth gwefusau am ddileu cannoedd o flynyddoedd o ddarostyngiad”.

“Syr Bradwr Terfel,” meddai Radha Nair-Roberts.