Mae’r Cynghorydd Ian Roberts wedi’i ailethol yn arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn 2023-24.
Cynghorydd Castell y Fflint yw arweinydd y grŵp Llafur, y grŵp gwleidyddol mwyaf ar yr awdurdod.
Fe gurodd e her y Cynghorydd Helen Brown, cynghorydd Hawarden Aston, gafodd ei dewis gan y grŵp Annibynnol yng Nghyfarfod Blynyddol Cyffredinol y Cyngor fel eu hopsiwn amgen i fod yn arweinydd.
“Dw i’n addo gwasanaethu’r sir a pharhau i gydweithio â chynifer o grwpiau ag y gallwn ni er lles Cyngor Sir y Fflint a phobol ein sir,” meddai’r Cynghorydd Ian Roberts am gael ei ailethol yn arweinydd.
“Rydyn ni’n barod i weithio ar draws y siambr er lles pobol Sir y Fflint.
“Dw i’n hynod o ddiolchgar i chi i gyd.”
Cabinet a phortffolios
Un o dasgau cynta’r Cynghorydd Ian Roberts yn ystod y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol oedd cadarnhau ei Gabinet a’u portffolios ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Bydd Dave Hughes, cynghorydd Llanfynydd, a Christine Jones, cynghorydd Queensferry a Sealand, ill dau yn parhau i rannu rôl y dirprwy arweinydd gan rannu’r cyflog.
Mae Cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi cael ei ychwanegu at y Cabinet Llafur mwyafrifol.
Mae’r Cynghorydd Mared Eastwood, cynghorydd New Brighton ac Argoed y daeth ei thymor fel cadeirydd y Cyngor i ben erbyn hyn, yn ymgymryd â’r portffolio Addysg, Iaith Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, sef portffolio blaenorol arweinydd y Cyngor.
Does dim newidiadau eraill i’r Cabinet, sydd fel a ganlyn:
- Gwasanaethau Cymdeithasol – Christine Jones (Queensferry a Sealand)
- Streetscene – Dave Hughes (Llanfynydd)
- Cynllunio, Iechyd Cyhoeddus a Gwarchodaeth – Chris Bithell (Dwyrain yr Wyddgrug)
- Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol – Billy Mullin (Gogledd-ddwyrain Brychdyn)
- Cyllid – Paul Johnson (Gorllewin Treffynnon)
- Tai ac Adfywio – Sean Bibby (Gorllewin Shotton)
- Newid Hinsawdd – David Healey (Caergwrle)
- Addysg, Iaith Gymraeg, Diwylliant a Hamdden – Mared Eastwood (New Brighton ac Argoed)
Cadeirydd newydd y Cyngor yw Gladys Healey, Cynghorydd Llafur yr Hob, a hithau wedi’i henwebu gan yr arweinydd, y Cynghorydd Ian Roberts, a’i chefnogi gan arweinydd yr wrthblaid, Bernie Attride, cynghorydd Annibynnol De Cei Connah.
Mae Gladys Healey yn olynu Mared Eastwood yn y rôl ar gyfer tymor 2023-24.
‘Person galluog iawn’
“Dw i’n credu bod Gladys yn berson galluog iawn, yn benstiff, yn mynnu llawer ar adegau, ond dydy hynny ddim o reidrwydd yn beth drwg,” meddai’r Cynghorydd Ian Roberts.
Mae’r Cynghorydd Gladys Healey wedi llongyfarch y Cynghorydd Mared Eastwood ar ei thymor fel cadeirydd.
“Rydym yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd ar y Cyngor hwn, rydyn ni’n cydweithio er lles y bobol sydd wedi ein rhoi ni yma, sef pobol Sir y Fflint,” meddai.
Dirprwy Gadeirydd newydd y Cyngor yw’r Cynghorydd Dennis Hutchinson, cynghorydd Annibynnol Bwcle Pentrobin, gafodd ei enwebu gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’i eilio gan y Cynghorydd Ian Roberts.
Bu’r Cynghorydd Dennis Hutchinson ar y Cyngor ers 32 o flynyddoedd, yn ymestyn yn ôl i ddyddiau hen Gyngor Alun a Glannau Dyfrdwy.
Mae hefyd yn ddyfarnwr pêl-droed lleol uchel ei barch, ac mae’n dweud bod cael ei ethol yn is-gadeirydd yn “anrhydedd fawr”.