Yr Athro Elwen Evans yw Is-Ganghellor newydd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’n olynu’r Athro Medwin Hughes, fydd yn ymddeol ar ôl bod yn y swydd am 23 o flynyddoedd.
Bydd hi’n dod yn Ddarpar Is-Ganghellor fis nesaf, gan ddechrau yn y swydd yn iawn ym mis Medi.
Ar hyn o bryd, yr Athro Elwen Evans, KC, yw Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, gyda chyfrifoldeb am yr Iaith a Diwylliant Cymraeg yn y Brifysgol.
‘Anrhydedd fawr’
Yr Athro Elwen Evans yw arweinydd benywaidd cynta’r prifysgolion a’r sefydliadau a’u rhagflaenodd.
Mae hi’n dweud bod cael ei phenodi’n “anrhydedd fawr”.
“Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr a llywodraethwyr yn y Brifysgol a gyda phartneriaid allanol i sicrhau llwyddiant parhaus y ddau sefydliad uchel eu bri,” meddai.
Astudiodd hi’r Gyfraith yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, gan raddio â gradd dosbarth cyntaf ddwbl: M.A. (Cantab).
Ar ôl graddio, aeth yn ei blaen i Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys, a chafodd ei galw i’r Bar gan Gray’s Inn yn 1980.
Cafodd ei phenodi’n Gwnsler y Frenhines (QC) yn 2002.
Mae hi wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn yn fargyfreithiwr, gan ddewis ymarfer yng Nghymru yn bennaf.
Mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyfreithiol, ac wedi arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau prawf ac apeliadau.
Mae ei gwaith wedi cynnwys llawer o achosion difrifol, cymhleth, sensitif ac uchel eu proffil, megis arwain y tîm erlyn yn achos April Jones a’r tîm amddiffyn yn achos trychineb Glofa Gleision.
Mae hi’n Gofiadur Llys y Goron ers cael ei phenodi yn 2001.
Bu’n Bennaeth Iscoed Chambers am dros bymtheg mlynedd, gan ymddiswyddo adeg ei phenodi ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015.
Cafodd ei phenodi i rôl Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg, a hi oedd yn gyfrifol am sefydlu Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.
Yn 2020, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a bu’n gyfrifol am arwain twf llwyddiannus y Gyfadran yn ystod y cyfnod hwn.
Roedd ei phortffolio hefyd yn cynnwys cynnig arweiniad strategol i weithgareddau cenhadaeth ddinesig y Brifysgol a datblygu perthnasoedd y Brifysgol yn llwyddiannus gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a chymwynaswyr.
Gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi, mae hi’n Feinciwr yn ei Hysbyty, fe’i hanrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i’r Gyfraith yng Nghymru, a bu’n Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
Mae hi wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol, gan adlewyrchu ei meysydd profiad a diddordeb proffesiynol.
Yn 2018, roedd ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.
‘Gyrfa ddisglair’
Mae’r Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cynghorau’r Prifysgolion, wedi croesawu’r Athro Elwen Evans i’r swydd.
“Rwyf i wrth fy modd fod yr Athro Elwen Evans, KC, wedi’i phenodi i rôl Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant,” meddai.
“Mae’r Athro Evans wedi mwynhau gyrfa ddisglair ym maes y gyfraith ac yn y byd academaidd, ac rydym yn edrych ymlaen at ei harweinyddiaeth yn y sefydliadau hanesyddol hyn.”
Mae Emlyn Dole, Darpar Gadeirydd Cyngor y Brifysgol, wedi estyn “llongyfarchiadau diffuant” i’r Athro Elwen Evans ar ei phenodiad.
“Edrychaf ymlaen yn fawr at gydweithio gyda hi i gyflawni cenhadaeth y Brifysgol, sef trawsnewid addysg a bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu,” meddai.
Mae’r Athro Medwin Hughes hefyd wedi ei llongyfarch a dymuno’n dda iddi yn y swydd.
“Mae hi’n adnabyddus fel arweinydd creadigol a deinamig sydd â hanes amlwg o gyflenwi rhaglenni trawsnewid, newid diwylliannol a datblygu strategol llwyddiannus,” meddai.
“Mae hi’n ymuno â sefydliadau nad ydynt erioed wedi ofni newid.
“Lles y genedl sydd wrth wraidd taith drawsnewidiol Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
“Bydd yr Is-Ganghellor newydd yn parhau â’r gwaith i sefydlu Prifysgol newydd i Gymru.
“Gallaf ei sicrhau y gall ddibynnu ar gefnogaeth lawn y Prifysgolion wrth iddi ddechrau ar y bennod newydd gyffrous hon yn hanes ein sefydliadau.”