Mae Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn dweud y dylai Adam Price fod wedi gweithredu yn hytrach nag “aros i broblemau bentyrru” o fewn Plaid Cymru.
Roedd hi’n siarad â rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C neithiwr (nos Iau, Mai 4), wrth ymateb i adroddiad damniol i “ddiwylliant gwenwynig” o fewn y Blaid.
Dywed yr adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan Blaid Cymru, fod angen i’r blaid “ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a gwreig-gasineb”.
Roedd “gormod o achosion o ymddygiad drwg” gan wleidyddion y Blaid, meddai, ac mae’r arweinydd Adam Price wedi ymddiheuro.
Fe wnaeth yr adroddiad 82 o argymhellion, ac maen nhw i gyd wedi cael eu derbyn.
Cafodd ymchwiliad ei lansio fis Rhagfyr y llynedd yn dilyn cwynion am y diwylliant o fewn Plaid Cymru, ac fe gafodd ei arwain gan gyn-wleidydd y Blaid, Nerys Evans.
Dywed adroddiad Prosiect Pawb fod “diffyg gweithredu dros nifer o flynyddoedd”, a bod y diffyg gweithredu hwnnw “wedi gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth fyth”.
Clywodd yr ymchwiliad dystiolaeth ar ffurf holiadur di-enw, ac fe ddaeth o hyd i achosion i aflonyddu rhywiol, bwlio a gwahaniaethu nad ydyn nhw’n “achosion unigol”, meddai’r adroddiad, sy’n dweud bod y rhan fwyaf o’r gwahaniaethu ar sail rhywedd.
Mae’r adroddiad yn galw ar Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Plaid Cymru i weithredu ar sail yr argymhellion er mwyn sicrhau bod y Blaid “wirioneddol ac yn weladwy yn groesawgar i fenywod”.
Mae’r adroddiad hefyd yn beirniadu “diffyg arweinyddiaeth a llywodraethiant cilyddol ar draws y blaid”, a bod hynny wedi gwaethygu’r sefyllfa dros nifer o flynyddoedd.
‘Siomedig iawn’
Dywed Bethan Sayed fod cynnwys yr adroddiad yn “siomedig iawn”, a’i bod hi’n gobeithio y bydd yr ymchwiliad a’r adroddiad yn “arwain at newid”.
“Mae tudalennau cynta’r adroddiad rydyn ni wedi’u gweld fel aelodau cyffredin yn dweud bod pethau wedi gwella yn y misoedd diwethaf, ond er hynny, mae’r ffaith fod cynifer o argymhellion yn dangos bod yna systemau ddim yn eu lle, pethau mor syml â phrosesau, pethau mor syml â dogfen er mwyn hybu aelodau staff i allu cwyno,” meddai.
“Mae’n annerbyniol ac mae angen newid, a gobeithio y bydd y tîm arweinyddol nid yn unig yn gweld yr argymhellion yma ond yn gweithredu arnyn nhw.
“Mae sgwennu adroddiad yn iawn, [ond] mae gweithredu’n rywbeth arall.
“Achos mae adroddiadau wedi digwydd o’r blaen – misogynistaidd yn 2016, er enghraifft, a wnes i gyfrannu i hynny. Beth sydd wedi digwydd gydag allbwn hynny?
“Roedd hwnna wedi digwydd oherwydd roedd yna achosion, oherwydd fod pobol oedd wedi cwyno ddim wedi cael eu clywed, ac wedi dweud ‘beth yw’r pwynt o gwyno?’
“Roedd pobol cyn amser Adam yn ymwybodol, wedyn roedd Adam yn gwybod bod hynny’n bodoli a dylai e fod wedi dod fel arweinydd a dweud, ‘Reit’, o’r cychwyn cyntaf sylweddoli beth oedd angen gwneud yn hytrach nag aros i broblemau bentyrru i fyny a bod yn y wasg yn y fath fodd.”
Richard Wyn Jones
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, fu hefyd yn siarad ar y rhaglen, mae ymateb Plaid Cymru i’r helynt yn dilyn fformiwla.
“Os ydach chi’n arweinydd mewn sefyllfa fel hyn, y peth gwaetha’ rydach chi’n gallu gwneud ydy trio celu pethau,” meddai.
“Dw i’n cymryd mai’r strategaeth – a dw i ddim yn trio awgrymu’i fod o ddim yn ddiffuant – ydy dadorchuddio pethau, syrthio ar ei fai a thrio symud ymlaen.
“Dw i ddim yn gwybod beth yn union mae unrhyw arweinydd yn mynd i’w wneud.
“Hyd y gwela i, mae rhai o’r cwynion yma’n ymestyn yn ôl cyn ei gyfnod o fel arweinydd.
“Mae unrhyw wleidydd yn arwain unrhyw blaid wleidyddol yn dweud yr un math o bethau – ‘rydan ni’n mynd i ddysgu’r gwersi’, ‘rydan ni wedi rhoi prosesau newydd yn eu lle’.
“Mae o’n ryw fath o fformiwla, ac rydan ni’n gweld y fformiwla’n cael ei ailadrodd ar hyn o bryd.”
Doedd neb ar gael o Blaid Cymru i gymryd rhan yn y rhaglen.