Mae disgwyl i’r cynlluniau ar gyfer ysgol Gymraeg tair i unarddeg oed newydd, gyda lle i 240 o ddisgyblion yng nghanol Ceredigion, gael sêl bendith yr wythnos nesaf.

Yr argymhelliad yw y dylai Pwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion gymeradwyo’r cais ar ran Cyngor Sir Ceredigion gan Wynne Construction i godi Ysgol Gynradd Dyffryn Aeron ar safle tir glas yn Felinfach, ar yr heol rhwng Aberaeron a Llanbed.

Y cynnig llawn yw ysgol gynradd un llawr gydag Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol, Canolfan Iaith, Meithrin, mynediad newydd o’r heol, a 103 o lefydd parcio, yn ogystal ag ardal chwarae amlbwrpas a chae 3G â llifoleuadau, a gweithfeydd cysylltiedig.

Bydd yr ysgol newydd yn tynnu tair ysgol gynradd ynghyd, sef Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ysgol Gynradd Dihewyd ac Ysgol Gynradd Felinfach, yn ogystal â’r Ysgol Feithrin bresennol a chanolfan drochi yn Felinfach.

Bydd hefyd yn creu cyfleuster meithrinfa newydd i blant dwy a thair oed, ynghyd â chyfleuster cymunedol ac Uned Adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer plant sy’n byw yng nghanol y sir.

Bydd yr ysgol tair i unarddeg oed newydd yn darparu 30 o lefydd meithrin a 210 o lefydd yn yr ysgol gynradd.

Mae lle i gredu y bydd 56 aelod o staff dysgu’n cael eu cyflogi ar draws yr holl gyfleusterau – 40 yn y brif ysgol, deg yn y tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chwech o fewn y dosbarth meithrin.

Derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion sêl bendith ar gyfer Cynllun Amlinelliad Strategol ym mis Rhagfyr 2021 gan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Gwrthwynebiad a phryderon

Mae un gwrthwynebiad wedi’i derbyn, gan godi pryderon o ran colli golau, sŵn, llygredd a thraffig.

Cafodd pryderon eu mynegi hefyd am y pris gafodd ei dalu am y tir a cholli gwerth i eiddo cyfagos.

Tra bod Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad yn cefnogi’r cais, mae wedi mynegi pryder am addasrwydd a diogelwch mynediad.

Mae darn o dir i’r de-ddwyrain o safle’r cais wedi’i ddiogelu ar gyfer datblygu adeilad theatr yn y dyfodol, a dydy hwnnw ddim yn rhan o’r cais.

“Y nod ar y cyfan yw creu system addysg gynaladwy drwy well defnydd o adnoddau i wella effeithlonrwydd a chost-effeithiolrwydd yr ystâd addysg, a sicrhau bod ysgolion yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain,” meddai’r asiant TACP Architects Ltd yn eu datganiad dyluniad a mynediad.

“Bydd y datblygiad hwn yn dod â safon adnoddau dysgu sydd ar gael yn Nyffryn Aeron i fyny i safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif.

“Bydd hefyd yn cyflwyno carbon net sero yn yr ysgol, sy’n cyfrannu at ymdrechion Cyngor Sir Ceredigion i gyflwyno awdurdod carbon-sero erbyn 2030.

“Bydd y datblygiad hwn hefyd yn ceisio cryfhau cysylltiadau â’r gymuned leol drwy ymgorffori cyfleusterau sy’n fuddiol i’r ysgol ac i’r gymuned.”