Mae Prif Weinidog Belize wedi awgrymu y gallai’r wlad benderfynu mynd yn weriniaeth.
Daw hyn ar ôl i Johnny Briceño feirniadu Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, am wrthod ymddiheuro am ran y wlad mewn caethwasiaeth ar draws yr Iwerydd.
Dywed Briceño fod gan y Deyrnas Unedig ddyletswydd i ymddiheuro am flynyddoedd o erchylltra’n gysylltiedig â chaethwasiaeth, gan alw am iawndal hefyd, ac y dylai Rishi Sunak “werthfawrogi” safbwynt Belize oherwydd ei gefndir ethnig fel dyn o dras Asiaidd.
Daw hyn ar ôl i Jamaica baratoi i ddechrau ar y broses o ethol pennaeth newydd ar ôl coroni Charles yn Frenin Lloegr y penwythnos hwn.
Dywedodd Rishi Sunak yr wythnos ddiwethaf na fyddai’n ymddiheuro am ran y Deyrnas Unedig mewn caethwasiaeth a’r ymerodraeth, gan ddadlau bod angen “deall ein hanes” a sicrhau bod cymdeithas “yn gynhwysol ac yn goddefgar tuag at bobol o bob cefndir”.
Mae Belize yn un o 14 o wledydd sydd â Brenin Lloegr yn bennaeth arnyn nhw, a hi yw’r unig wlad yn y Gymanwlad nad yw Brenin Lloegr wedi ymweld â hi.
Bydd comisiwn sydd wedi’i sefydlu’n cynnig awgrymiadau ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol y wlad.
Yn ôl Prif Weinidog y wlad, dydy Belize ddim wedi cyffroi ynghylch coroni Charles.