Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, wedi cadarnhau na fydd hi’n mynd i seremoni coroni Brenin Lloegr ddydd Sadwrn (Mai 6).

“Fel gweriniaethwraig, teimlaf mai rhywbeth i eraill yw dathlu’r coroni,” meddai wrth gyhoeddi ei phenderfyniad.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yno ar ran Llywodraeth Cymru, ynghyd â David Rees, y Dirprwy Lywydd ac Aelod Llafur o’r Senedd.

Fydd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ddim yn mynd chwaith.

“Rwyf wedi penderfynu na fyddaf yn mynychu’r coroni,” meddai Elin Jones mewn datganiad.

“Bydd y Senedd yn cael ei chynrychioli gan y Dirprwy Lywydd.

“Fel Llywydd, rwyf wedi ymgymryd yn llawn â phob dyletswydd cyfansoddiadol gyda phennaeth y wladwriaeth a byddaf yn parhau i wneud hynny.

“Serch hyn, fel gweriniaethwraig, teimlaf mai rhywbeth i eraill yw dathlu’r coroni.

“Rwy’n dymuno’n dda i’r pâr brenhinol yn eu blynyddoedd o wasanaeth.”

‘Siomedig iawn’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion, gan gynnwys yr arweinydd Andrew RT Davies.

“Mae safbwynt y Llywydd yn anwleidyddol, eu rôl yw cynrychioli Aelodau’r Senedd a phobol Cymru, yn enwedig ar achlysuron gwladwriaethol pwysig, waeth beth fo’u barn bersonol,” meddai.

“Mae hwn yn benderfyniad syfrdanol a siomedig iawn gan y Llywydd heddiw.

“Ddoe, fe basiodd y Senedd, y mae Elin Jones yn llywyddu arni, yn unfrydol gynnig i longyfarch y Brenin a’r Frenhines Gydweddog ar eu Coroni y penwythnos hwn.

“Os yw’r Llywydd eisiau swydd wleidyddol newydd yn lle hynny, fe ddylai hi gyflwyno ei CV ar gyfer swydd arweinydd Plaid Cymru.”

“Rwy’n siomedig iawn yn hyn,” meddai Alun Davies, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Flaenau Gwent.

“Dydi’r @yLlywydd ddim yno i arfer ei rhagfarnau ei hun ond i gynrychioli ein senedd gyfan a’n cenedl.”

‘Ymddygiad egwyddorol’

Mewn sylw ar Twitter, rhannodd y prifardd T. James Jones, neu Jim Parc Nest, ei fod yn falch na fydd Elin Jones yn mynychu.

“Diolch am ymddygiad egwyddorol,” meddai.

Ymunodd yr awdures Manon Steffan Ros â’r ddadl ar Twitter gan ddweud ei bod hi’n “falch iawn o glywed hyn”.

“Mae mynychu’r coroni yn weithred wleidyddol,” meddai.

“Mae gan Elin Jones egwyddorion a dydi hi ddim yn rhagrithiwr,” meddai un arall ar Twitter.

“Pam ddylai hi fynd?”