Mae Cyngor Wrecsam yn dal i chwilio am hyfforddwr nofio Cymraeg i lenwi swydd sydd wedi cael ei hysbysebu ers blwyddyn.

Daeth y cyfaddefiad gan gynghorwyr mewn sesiwn briffio’r wasg cyn cyfarfod y pwyllgor gweithredol yr wythnos nesaf, pan fo disgwyl i Strategaeth Iaith Gymraeg yr awdurdod, fydd yn rhedeg tan 2027, gael ei gymeradwyo.

Fe wnaeth y Cynghorydd Hugh Jones, cynghorydd Ceidwadol yr Orsedd a phencampwr Cymraeg y Cyngor, fynegi ei rwystredigaeth ynghylch y frwydr i recriwtio i’r rôl, tra bod y Cynghorydd annibynnol Mark Pritchard, arweinydd y Cyngor, wedi siarad am anawsterau ehangach wrth recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg i’r awdurdod.

Miliwn o siaradwyr

Mae gan Lywodraeth Cymraeg darged o un miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, ond mae’r Cynghorydd Mark Pritchard yn dweud bod angen bod yn realistig mewn ardal fel Wrecsam, sy’n agos at y ffin â Lloegr.

“Mae hynny’n uchelgeisiol iawn, a dw i wir yn gobeithio eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] yn cyflawni hynny,” meddai.

“Mae’n faes anodd i ni, ac fy marn bersonol i ydy hyn, oherwydd lle’r ydyn ni o ran lleoliad.

“Mae hynny’n ffactor.

“Rydyn ni’n ei chael hi’n anodd.

“Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i recriwtio staff sy’n siaradwyr Cymraeg, ond dydy hi ddim yn hawdd i ni a fedrwn ni ddim cuddio rhag hynny chwaith.

“Rydyn ni wedi cyhoeddi hysbysebion ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dydyn ni ddim wedi gallu recriwtio.

“Allwn ni ddim ceisio’i hyrwyddo heb ddweud wrth y cyhoedd beth yw ein hanawsterau ni.”

‘Pob moronen’

Dywed y Cynghorydd Hugh Jones fod y Cyngor wedi cynnig “pob moronen” i geisio llenwi swydd hyfforddwr nofio Cymraeg.

“Un o’n gofynion ydy darparu gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.

“Rydyn ni wedi hysbysebu am gyfnod o ddeuddeg mis, rydyn ni wedi ei hyrwyddo, rydyn ni wedi mynd allan i ysgolion ac i glybiau chwaraeon.

“Rydyn ni wedi hysbysebu dros y ffin yn Sir y Fflint.

“Rydyn ni wedi gwneud popeth allwn ni i geisio recriwtio hyfforddwyr nofio sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fe gynigion ni ddarparu gwersi Cymraeg.

“Yn amlwg, pan ydych chi’n ymdrin â rhywbeth fel gwersi nofio, diogelwch a phopeth arall, mae’n rhaid bod rhyw lefel o fod yn alluog wrth allu cyfathrebu yn y Gymraeg.

“Rydyn ni wedi trio pob ffordd bosib.

“Rydyn ni wedi gofyn i bobol o gymdeithasau Cymraeg a ydyn nhw’n gallu ein helpu ni i recriwtio, a hyd yn hyn dydyn ni ddim wedi bod yn llwyddiannus wrth recriwtio.

“Allwn ni ddim mynd allan i’r stryd, gwthio rhywun a dweud ‘rydych chi am fod yn hyfforddwr nofio Cymraeg’.”

Wrecsam ‘ddim ar ei phen ei hun’

“Bydd y 21 awdurdod arall yn gwneud yr un fath,” meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard.

“Mae’r awdurdodau eraill ledled Cymru’n cael problemau wrth recriwtio, wir yr.

“Mae’n faes anodd a dydyn ni ddim ar ein pen ein hunain yn fan hyn.

“Dw i’n meddwl y bydd Llywodraeth Cymru’n cydymdeimlo rywfaint â’r awdurdodau lleol sy’n gweithio’n ddiflino i recriwtio ac sy’n methu recriwtio oherwydd dydy’r niferoedd jyst ddim allan yna.

“Rhaid i ni fod â llawer o synnwyr cyffredin yn y sgwrs yma hefyd, oherwydd rydyn ni i gyd yn ei chofleidio, i gyd yn ei chefnogi, ond rhaid i ni fod yn onest â ni’n hunain o ran yr hyn y gallwn ni neu’r hyn na allwn ni ei gyflawni oherwydd recriwtio.”

Strategaeth Iaith Gymraeg

Bydd Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau a gofynion statudol, gyda mwy nag £1.3m wedi’i glustnodi i geisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam.

Dywed y Cynghorydd Hugh Jones nad yw newidiadau demograffig dros yr ugain i 25 mlynedd diwethaf mewn ardaloedd megis Rhos a Johnstown wedi helpu’r achos.

“Fel sir ar y ffin, mae canran sylweddol o’n poblogaeth yn gweithio ac mae llawer o’u gweithgareddau dros y ffin, felly mae ceisio cymharu Wrecsam ac awdurdodau lleol nad ydyn nhw yn yr un sefyllfa, yn eithaf anodd.”

Ond mae’r Cyngor yn annog staff a chynghorwyr i ddysgu’r iaith.

“Mae’n bwysig ein bod ni fel Cyngor, wrth ofyn i’r gymuned gofleidio’r Gymraeg, yn gosod esiampl ein hunain,” meddai.

“Rhaid i chi fod yn realistig.

“Os edrychwch chi ar ddiffyg twf mewn siaradwyr Cymraeg ledled Cymru, dydyn ni ddim ar ein pen ein hunain o ran yr hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni yma.”

Bydd bwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam yn cyfarfod ddydd Mawrth, Mai 9.