Bydd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a’r awdur Mike Parker, ymhlith eraill, yn annerch y dorf yn y rali annibyniaeth nesaf.

Ar ôl dwy rali yn Wrecsam a Chaerdydd y llynedd, bydd YesCymru a Pawb Dan Un Faner yn cynnal y rali nesaf yn Abertawe ymhen llai na phythefnos (dydd Sadwrn, Mai 20).

Roedd dros 10,000 o bobol yn y rali annibyniaeth yng Nghaerdydd, y mwyaf hyd yma, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio adeiladu ar y momentwm hwnnw.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn ar Wind Street am 1yp ac yn gorffen ar Barc Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, lle bydd siaradwyr a cherddorion.

Fe fydd nifer o ddigwyddiadau ymylol yn cael eu cynnal dros y penwythnos hefyd, gan gynnwys ‘Marchnad Indy’ ar y Glannau.

Gorymdaith hygyrch

Mae’r trefnwyr am sicrhau bod yr orymdaith yn hygyrch i bawb, a bydd yr orymdaith yn cael ei harwain gan bobol ag anableddau.

“Fel aelod anabl o YesAbertawe roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bwysig sicrhau bod lleisiau a gwelededd pobol anabl yn cael eu clywed a’u gweld,” meddai Kat Watkins, un o’r trefnwyr yn Abertawe.

“Mae gwneud yr orymdaith hon yn hygyrch a rhoi pobol ag anableddau yn arweinwyr yr orymdaith wedi sicrhau y byddant yn sicr yn cael eu gweld a’u clywed!”

‘Adeiladu ar y momentwm’

Dywed Naomi Hughes o YesCymru ei bod hi am fod yn “orymdaith arbennig” gyda siaradwyr “rhagorol”.

“Mae’r gorymdeithiau’n gyfle gwych i’r rhai ohonom sy’n credu mai Annibyniaeth yw’r allwedd i ddyfodol gwell i Gymru ac i blant Cymru, i ddod at ein gilydd a rhannu ein hangerdd dros ein cenedl ac i ymgyrchu dros y rhyddid sydd ei angen arnom,” meddai.

Yn ôl Hedd Gwynfor o Pawb Dan Un Faner, “mae’n gyfle i ddangos i bawb yng Nghymru a thu hwnt fod yna alw aruthrol am annibyniaeth ar draws y wlad gyfan, o’r gogledd i’r de, ac o’r dwyrain i’r gorllewin”.

“Mae’n hynod bwysig ein bod yn adeiladu ar fomentwm orymdeithiau y llynedd,” meddai.