Mae mam bachgen 13 oed o Arfon ddioddefodd ymosodiad arno wrth gerdded adref o’r ysgol, gan dorri asgwrn, yn rhybuddio bod ymosodiadau gan bobol ifanc ar ei gilydd yn dod yn fwyfwy cyffredin.
Dydy rhieni’r bachgen, sy’n dweud eu bod nhw eisiau aros yn ddienw, ddim yn gwybod i ba raddau fydd eu mab yn gwella o’i anafiadau, ac mae e wedi colli llawer o ysgol ers y digwyddiad.
A ninnau yn oes y cyfryngau cymdeithasol, cafodd ffilm o’r digwyddiad ei lledaenu.
Wrth gerdded adref o’r ysgol yn gwbl ddiniwed, sylwodd y bachgen ei fod mewn perygl oherwydd bod grŵp o fechgyn yn ei ddilyn.
Ymosododd un o’r bechgyn, oedd yn arfer bod yn ffrindiau efo fo, arno o’r tu ôl ac fe arweiniodd at anafiadau difrifol.
“Ers hynny mae’r bachgen hwn wedi dod yn ffrindiau â grŵp arall,” meddai mam y bachgen wrth golwg360.
“Neidiodd y bachgen hwn arno o’r tu ôl.
“Roedd mewn lle eithaf peryglus, yn ymyl ffordd fawr.
“Roedd ar y llawr wedyn oherwydd na allai gerdded.
“Torrodd asgwrn, sydd wedi ei stopio rhag symud yn iawn am beth amser.
“Mae’n ei atal rhag mynd i’r ysgol am fisoedd.”
Effeithiau tymor hir
Gyda’r anaf wedi cael cryn effaith ar hwyliau’r bachgen, dydy ei fam ddim yn siŵr beth fydd yr oblygiadau tymor hir.
“Nid ydym yn gwybod pa mor dda y mae’r toriad yn mynd i wella,” meddai.
“Yn y tymor hir, nid ydym yn gwybod a fydd yn cael problemau yn y man.
“Bu yn ddigalon iawn am ychydig o amser.
“Roedd allan o’i drefn arferol.
“Mae’n rhaid iddo fynd i weld ffisiotherapydd.
“Mae wedi colli llawer o ysgol.
“Gallai olygu nad yw’n gwneud cystal yn yr ysgol nawr, a llawer o bethau eraill.”
Problemau’r oes fodern
Yn ôl y fam, dydy’r strydoedd ddim bellach yn ddiogel i bobol ifanc, a chafodd y cyfan ei ffilmio a’i roi ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Hoffwn pe bai pob plentyn yn ddiogel pan maent yn gadael yr ysgol,” meddai’r fam wedyn.
“Ymddengys ei fod yn fwy cyffredin y dyddiau hyn i blant gael eu hymosod.
“Mae’r cyfan yn cael ei ffilmio a’i ledaenu ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n niweidio’r plentyn.
“Byddwn hefyd yn dweud ei bod hi wedi bod yn anodd iddo fynd i’r ysgol oherwydd ei fod yn ofnus o fynd allan os yw’r un peth yn digwydd eto.”