Mae bron i £15m wedi cael ei wario ar ap Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, sydd heb gael ei lansio eto.

Ar hyn o bryd, mae’r ap yn mynd drwy gyfnod prawf, ac wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig gan y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru fod £14,910,738 wedi cael ei wario arno hyd yn hyn.

Dechreuodd y gwaith o’i ddatblygu tua dwy flynedd yn ôl, wedi i ap tebyg gael ei lansio yn Lloegr yn 2018.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yr ap yn caniatáu i bawb gael mynediad at wasanaethau 111 a gwasanaethau rhoi organau ar-lein.

Bydd pobol yn gallu trefnu apwyntiadau â’u meddyg teulu, ailarchebu presgripsiynau a gweld crynodeb o’u cofnod iechyd ar yr ap hefyd, unwaith bydd eu meddygfa wedi rhoi’r hawl iddyn nhw wneud hynny, meddai’r llywodraeth.

Fis diwethaf, dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod y tîm Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd, sy’n datblygu’r ap, yn gweithio gyda meddygfeydd ar draws Cymru er mwyn helpu i reoli’r newid.

‘Byw yn y gorffennol’

Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Cymru “dal i fyw yn y gorffennol” tra bo’r Gwasanaeth Iechyd yng ngofal y Blaid Lafur.

“Heddiw, fe wnaethon ni ddysgu bod £15m wedi cael ei wario ar ap sydd dal heb gael ei lansio,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Cafodd ap Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr ei lansio yn niwedd 2018, ac er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi defnyddio’r un cwmni i gynhyrchu ap Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, dydyn ni dal heb gyrraedd y cam i’w lansio.

“Dydy’r ap ddim ond wedi cyrraedd y cyfnod prawf ehangach, ac mae’r Gweinidog Iechyd Llafur wedi cyfaddef fod sawl nam wedi bod ar yr ap a’i fod yn anghyflawn.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwthio am fwndel technoleg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn moderneiddio’r Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru – rydyn ni dal yn bell ar ei hôl hi, heb bresgripsiynau digidol ac yn defnyddio peiriannau ffacs.”

Gwariant

Mae ap GIG Cymru wedi bod drwy brofion beta preifat, oedd yn cynnwys 700 o bobol a deg o feddygfeydd, ac mae bellach yn mynd drwy gyfnod o brofion beta cyhoeddus.

“Hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23, roedd cyfanswm o £14,910,378 wedi cael ei ddyrannu o’r Gronfa Blaenoriaethau Digidol ar gyfer y Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (sy’n cael ei drefnu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru) ar gyfer creu Ap GIG Cymru a chefnogi gweithgarwch sydd ynghlwm ag ef,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wrth ateb cwestiwn gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ynghylch y gwariant ar yr ap hyd yn hyn.

“Mae £5,776,037 ohono’n wariant cyfalaf a £9,134,241 yn wariant refeniw.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae fersiwn beta’r ap wedi cael ei ryddhau fis diwethaf, ac mae’n cael ei brofi gyda meddygfeydd teulu a phobol dros Gymru.”