Mae Prif Weinidog St Kitts & Nevis yn y Caribî yn dweud y gallen nhw gefnu ar Charles, Brenin Lloegr, a dod yn weriniaeth.

Yn ôl Dr Terrance Drew, ddaeth yn brif weinidog fis Awst diwethaf, fyddan nhw fyth yn dod yn “rhydd” hyd nes eu bod nhw’n torri’r cysylltiad â’r teulu brenhinol, ac mae disgwyl i refferendwm gael ei gynnal.

Wrth siarad â’r BBC, fe wnaeth e alw hefyd am ymddiheuriad gan y teulu brenhinol am eu cysylltiadau â chaethwasiaeth yn y gorffennol.

Daw hyn ar ôl i Jamaica a Belize gyhoeddi ddiwedd yr wythnos ddiwethaf eu bod nhw hefyd am ystyried eu dyfodol cyfansoddiadol yn y dyfodol agos.

Hanes St Kitts & Nevis

Daeth St Kitts & Nevis yn annibynnol yn 1983.

Ond mae’r wlad, sy’n gyfuniad o’r ddwy ynys, wedi cadw ei chysylltiadau â’r teulu brenhinol drwy fod yn aelod o’r Gymanwlad ers hynny.

Llywodraethwr cyffredinol sy’n cynrychioli coron Lloegr yn y wlad gafodd ei darganfod gan Christopher Columbus yn 1493.

Yn St Kitts y cafodd trefedigaeth gyntaf Lloegr ei sefydlu yn y Caribî yn 1623, a Nevis bum mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd y diwydiant gwneud siwgr yn ffynnu yn y dyddiau hynny.