Fe wnaeth dros 1,500 o bobol ymgynnull ar gyfer rali ddiweddaraf Nid yw Cymru ar Werth yng Nghaernarfon heddiw (Mai 8), yn ôl y trefnwyr.

Bwriad y rali oedd tynnu sylw at yr angen i fynd i’r afael â’r argyfwng ail dai sydd wedi bod yn wynebu sawl cymuned arfordirol a gwledig, a galw am Ddeddf Eiddo gyflawn.

Er bod y Cytundeb Cydweithio yn ymrwymo i gyflwyno Deddf Eiddo a Rhenti Teg yn nhymor presennol y Senedd, pryder Cymdeithas yr Iaith yw na fydd y ddeddf yn mynd at wraidd y broblem tai – sef y farchnad agored, “sy’n trin cartrefi fel asedau i wneud elw”.

Ar ddiwedd penwythnos Coroni’r Brenin Charles, bu’r dramodydd Mared Llywelyn; yr Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor; yr awdur a’r ymgyrchydd Angharad Tomos; Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robat Idris; y cyn-ymgeisydd Llafur, Dylan Lewis Rowlands; yr ymgyrchydd Osian Jones, a’r cerddor Bryn Fôn yn siarad yn y rali.

Bu perfformiadau gan Geraint Lovgreen, Maes Parcio a Twmffat cyn i’r siaradwyr annerch yr rali, gafodd ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, ar y Maes yng Nghaernarfon.

‘Rheoleiddio’r farchnad’

“Mae’r Llywodraeth wedi addo Papur Gwyn Deddf Eiddo cyn diwedd tymor y Senedd yma, ond does dim sôn amdano na’r cynnwys,” meddai Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

“Er bod y Llywodraeth wedi cyflwyno rhai mesurau cyfyngedig i leihau effaith ail dai a llety gwyliau dydyn nhw ddim wedi mynd at wraidd y broblem – a dydyn nhw ddim yn ei drafod.

“Rydyn ni’n galw am Ddeddf Eiddo ers diwedd y 1970au, mae’r angen yn fwy nag erioed, a chyfle nawr i sortio’r broblem, unwaith ac am byth – trwy Ddeddf Eiddo fydd yn rheoleiddio’r farchnad.”

‘Hawl i fyw adref’

Un o’r ymgyrchwyr ifanc fu yn y rali heddiw oedd Sara Dafydd, sy’n 21 oed ac yn byw yng Nghaernarfon. Wrth siarad efo golwg360, dywedodd y byddai’n hoffi prynu tŷ ond nad yw hynny’n hawdd ar y funud.

Mae brawd Sara, sy’n 27 oed, yn ceisio cynilo i brynu tŷ ym Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn ers ychydig o flynyddoedd, ond wedi bod yn byw yno mewn carafán yn y cyfamser.

“Mae tai haf yn cymryd drosodd llefydd ac yn lladd cymuned, ac mae o hefyd yn golygu ein bod ni methu fforddio byw yn lle rydyn ni wedi cael ein magu,” meddai Sara.

“Dyla ein bod ni’n cael hawl i fyw adref.

“Mae fy mrawd i’n byw ym Morfa Nefyn ar y funud a methu fforddio tŷ, mae tai yn mynd fel tai haf.

“Mae o wedi bod yn hel ers ychydig o flynyddoedd yn trio hel i gael tŷ, ond mae o rhy anodd. Mae o’n byw mewn carafán ar y funud, mae o’n aros rŵan a gobeithio y bydd prisiau’n dod lawr.

“Yn bendant mae hi’n bwysig dod yma i ddangos cefnogaeth at yr ymgyrch, mae o’n ymgyrch mor bwysig a dylai pawb gael hawl i brynu tŷ yn y lle maen nhw’n ei garu yng Nghymru a ddim gorfod symud i ffwrdd o’u cartref.”

‘Gwrthgyferbyniad’

Yn ôl llefarydd ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith, roedd y rali’n “wrthgyferbyniad llwyr i’r dathlu braint a chyfoeth oedd yn Llundain dros y penwythnos”.

“Yn yr un modd mae gofyn i bawb ymrwymo i ddyfodol eu cymunedau yn wrthgyferbyniad â’r cais i bobl dyngu llw i berson anetholedig,” meddai.

“Rydyn ni’n falch bod pawb ddaeth i’r rali heddiw wedi troi allan – ond mae’n bwysig bod y Gweinidog ei hun yn clywed felly gofynnwn i bobl ar draws Cymru ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau a danfon neges glir at Julie James, y Gweinidog Hinsawdd, bod angen Deddf Eiddo gyflawn erbyn diwedd tymor y Senedd yma.”