Fedrith y Gymraeg ddim parhau mewn sefyllfa gyfalafol, meddai’r awdur a’r ymgyrchydd Angharad Tomos ar ddiwrnod rali Nid yw Cymru ar Werth.

Heidiodd torf o 1,500 o bobol i faes Caernarfon i alw ar y llywodraeth am Ddeddf Eiddo fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith heddiw (Mai 8).

Roedd y glaw yn drwm, ond roedd ysbryd protest i deimlo.

Ers Ebrill 1 eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheol sy’n golygu bod rhaid i dŷ gwyliau fod yn llawn am 182 diwrnod y flwyddyn er mwyn cael ei ystyried yn lety gwyliau, a chael talu trethi busnes yn hytrach na threth cyngor domestig.

Maen nhw hefyd wedi rhoi’r grym i awdurdodau lleol godi premiwm treth cyngor o 300% ar ail gartrefi a thai gwag hir dymor.

Fodd bynnag, mae ymgyrch yn galw am weithredu pellach a Ddeddf Eiddo gyflawn er mwyn sicrhau nad ydi pobl yn cael eu prisio o’r farchnad leol.

Bu golwg360 yn sgwrsio efo dau o’r siaradwyr cyn y rali, sef yr awdures Angharad Tomos a’r Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor.

Cyfoeth a thlodi

Yn ôl Angharad Tomos, er bod yr ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth yn hen ymgyrch mae hi’n un dyngedfennol ar lawr gwlad.

“Mae hi’n hen ymgyrch ond yn ystod Covid a’r misoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn prisiau tai a dydy pobol methu fforddio tŷ a hwn ydy’r angen mwyaf sylfaenol,” meddai’r awdur a’r ymgyrchydd.

“Rydym wedi dod ynghyd ar benwythnos lle mae yna wariant a chyfoeth dychrynllyd yn cael ei ddangos.

“Wrth ochr y cyfoeth aruthrol yma sy’n cael ei daflu atom ni, mae yna bobol sydd methu fforddio tŷ.”

Drwy gael Deddf Eiddo mae Angharad Tomos yn credu y bydd awdurdodau lleol yn gallu cynnig tai fforddiadwy i bobol, a fydd yn mynd law yn llaw ac achub y Gymraeg fel iaith gymunedol.

“Yn y bôn beth ydy Ddeddf Eiddo yw galw am reolaeth ar y farchnad dai, ein bod ni methu dibynnu ar y farchnad rydd, rydym wedi gweld y canlyniadau, bod dim dyfodol i gymunedau Cymraeg,” meddai Angharad Tomos.

“Rydym yn gofyn i awdurdodau lleol gymryd cyfrifoldeb, o asesu’r angen lleol, gwneud yn siŵr bod tai ar gael, naill ai drwy rent teg neu am brisiau teg.

“Fedrith y Gymraeg ddim parhau mewn sefyllfa gyfalafol.

“Dydy pobol ar gyflogau hynod isel methu fforddio tai, a bod rheiny’n mynd yn ail gartrefi.” 

Angharad Tomos yn siarad yn ystod y rali

Dyfalbarhad

Mae Angharad Tomos yn ddiolchgar i’r rhai a ddangosodd ymrwymiad drwy ddod allan yn y tywydd garw ac yn credu y byddai sicrhau Ddeddf Eiddo yn sicrhau dyfodol yr iaith ar lawr gwlad.

“Efallai bod o’n addas bod ni allan ar y stryd yn y glaw oherwydd mae’n dangos mai dyfalbarhad, y rhai sy’n fodlon mynd yr ail filltir, sy’n mynd i ennill.

“Mae hi’n ymgyrch uchelgeisiol ond oni bai ein bod ni’n cael yr hawliau yma fydd yna ddim dyfodol i gymunedau Cymraeg.”

“Mae ffordd ymlaen”

Mae angen i wleidyddion “gamu fyny a dangos gweledigaeth ynglŷn â’r ffordd ymlaen”, meddai Aelod o’r Senedd Dwyfor Meirionnydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.

“Mae angen i ni rannu syniadau a dangos bod gwleidyddion yn gwrando ar lais pobol ifanc Cymru sydd methu cael hyd i dai, ar lais pobol ddifreintiedig Cymru sydd yn yr un sefyllfa.

“Rhaid i ni ddangos yn glir bod ffordd ymlaen, ac mae ffordd ymlaen oherwydd mae’n rhaid i ni weld y llywodraeth yn buddsoddi llawer mwy mewn adeiladu tai cymdeithasol.

“Mae rhaid i ni weld tai gwag yn dod yn ôl i ddefnydd.”

Mabon ap Gwynfor yn annerch y dorf

Yn ôl y gwleidydd, rhaid cael ymyrraeth uniongyrchol yn y farchnad, “fel ein bod ni’n rheoli’r farchnad yn hytrach na bod y farchnad yn rheoli ni”.

“Rhaid cael Deddf Eiddo,” ychwanegodd.

“Mae rhaid i’r Ddeddf Eiddo fod ar y top yn datgan yn ddiamod bod yna hawl dynol gan bobol i gael to uwch eu pennau, i gael tŷ yn eu cymuned eu hunain fel eu bod nhw’n gallu byw efo urddas.

“O fan yna bydd pethau yn gwella, addysg plant, iechyd pobol, gweithredu cymdeithasol, bydd y cyfan yn gwella o sicrhau bod gan bawb dŷ i fyw ynddo.”

1,500 o bobol yn rali Nid yw Cymru ar Werth

“Mae tai haf yn cymryd drosodd llefydd ac yn lladd cymuned, ac mae o hefyd yn golygu ein bod ni methu fforddio byw yn lle rydyn ni wedi cael ein magu”