Cwmni Camlas ydy’r cwmni materion cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i gyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod i’w gweithwyr.

Yn ôl Camlas Public Affairs, maen nhw wedi cymryd y cam er mwyn ceisio blaenoriaethu iechyd a llesiant eu staff a pharhau i gynnig gwasanaeth o’r un safon i’w cleientiaid.

Mae’r cwmni, sy’n canolbwyntio ar gynnig cyngor strategol a gwasanaethau lobio i ystod o fusnesau a sefydliadau nid er elw yng Nghymru, yn dweud bod y penderfyniad yn cyd-fynd â’u hymdrechion i hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Gallai wythnos waith pedwar diwrnod wella llesiant gweithwyr, cynhyrchiant busnesau a’r amgylchedd, yn ôl ymgyrchwyr sy’n galw ar weinidogion Llywodraeth Cymru i dreialu wythnos pedwar diwrnod yn y sector cyhoeddus.

Mae cynlluniau peilot ar gyfer gweithio llai o oriau ar y gweill yn yr Alban, Iwerddon a Sbaen, ac mae gwledydd fel Gwlad Belg, yr Almaen, Japan a Seland Newydd yn gwneud gwaith i symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.

Yn ôl adroddiad diweddar gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd, mae’r dystiolaeth yn dangos y gallai’r newid hybu cynhyrchiant.

Dywed Naomi Williams, Partner Reolwr Camlas, y bydd y penderfyniad o fudd i’w gweithwyr a’r cleientiaid “gan y bydd y tîm yn canolbwyntio’n well, yn gynhyrchiol, ac wedi dadflino”.

“Rydyn ni’n cydnabod mai ein gweithwyr yw ein hased fwyaf gwerthfawr, ac rydyn ni’n credu y gallwn greu amgylchedd waith mwy cynaliadwy ac iachach iddyn nhw drwy gyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod,” meddai.

‘Newyddion gwych’

Fe wnaeth Mark Hooper o 4 Day Week Cymru gynnal treialon ar gyfer wythnos pedwar diwrnod yn ei gwmni cydweithredol, a wnaeth e ddim gweld unrhyw ostyngiad mewn cynhyrchiant.

“Mae hyn yn newyddion gwych ac yn dangos ymrwymiad gwirioneddol tuag at lesiant cydweithwyr ym musnes Camlas,” meddai Mark Hooper, sydd wedi dechrau deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun peilot wythnos pedwar diwrnod ar gyfer y sector gyhoeddus.

“Mae arweinyddiaeth mewn sectorau fel materion cyhoeddus yn hollbwysig i newid ein hagwedd dorfol tuag at waith.”

Mae’n bryd i Gymru arwain a threialu wythnos waith pedwar diwrnod

Jack Sargeant

Yr Aelod Llafur o’r Senedd sy’n dadlau’r achos dros arbrofi ag wythnos waith fyrrach

‘Manteision posib i lesiant, cynhyrchiant a’r amgylchedd efo wythnos waith pedwar diwrnod’

Cadi Dafydd

“Os ydyn ni am i bobol ymgysylltu’n gadarnhaol â’u gwaith, fedrith gwaith ddim bod yn bopeth i rywun. Rhaid cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith”