Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi datgelu rhai o’r mannau gorau i weld blodau bendigedig y gwanwyn y mis hwn.

Gyda dyfodiad mis Mai, mae modd gweld coetiroedd wedi’u carpedu â chlychau’r gog a pherllannau’n fôr o goed blodeuol yng ngerddi a pharcdiroedd yr Ymddiriedolaeth ledled Cymru.

Nawr yw’r adeg berffaith i gynllunio taith gerdded dawel trwy rai o’r mannau gorau ar gyfer clychau’r gog yng Ngardd Bodnant, Castell y Waun, Dinefwr a Chastell Penrhyn, meddai’r Ymddiriedolaeth.

Ond maen nhw’n rhybuddio pobol i droedio’n ofalus, oherwydd gall gymryd blynyddoedd i’r blodau bregus hyn ailsefydlu pe baen nhw’n cael eu sathru.

Opsiwn arall, meddai’r Ymddiriedolaeth, yw mwynhau “harddwch byrhoedlog y coed afalau, gellyg a cheirios blodeuol wrth i ddathliadau #GwleddYGwanwyn #BlossomWatch barhau yn Erddig, Llanerchaeron a Thŷ Tredegar”.

Mae ymgyrch gadwraeth yr elusen yn annog pobol i fentro allan a mwynhau hyfrydwch a harddwch y blodau.

Tua diwedd y mis, bydd modd gweld wisteria yn rhaeadru yng Nghastell a Gardd Powis a Gerddi Dyffryn – uchafbwynt tymhorol na ddylid ei golli.


Y gogledd

Gardd Bodnant, Conwy

Yn yr Hen Barc, mae modd troedio ymysg môr o lesni sy’n ymestyn y tu hwnt i gysgod brith y llennyrch, gan gyrraedd gerddi glan afon y Glyn a’r Pen Pellaf.

Mae coed addurnol a choed afalau yn dechrau blodeuo ac mae modd gwylio ac aros am wledd a phersawr godidog y wisteria ar y Terasau.

Castell y Waun, Wrecsam

Mae parcdir y Waun yn adfywio yn y gwanwyn wrth i’r coed ddeilio ac wrth i glychau’r gog sirioli’r coetiroedd.

Mae modd chwilio am fainc mewn llecyn o’r neilltu ymhlith clychau’r gog yn y gerddi ffurfiol, neu fynd am dro o Fanc y Stabl, gan ddilyn y llwybr ag arwyddbyst glas ar draws yr ystad i fwynhau clychau’r gog ysblennydd Castell y Waun.

Erddig, Wrecsam

Yn y gwanwyn, mae’r Coed Mawr wedi’i garpedu â garlleg gwyllt.

Y llwybr ag arwyddbyst oren yw’r llwybr gorau ar gyfer gweld y blodau gwyllt blodeuol bregus hyn.

A draw yn yr ardd furiog, mae 180 o goed afalau yn blodeuo trwy’r ardd, ac mae modd gweld coed ffrwythau gwyntyllaidd yn tyfu ar draws y waliau.

Castell Penrhyn a’r Ardd, Bangor

Yn ystod mis Mai, mae modd gweld môr o lesni trwy’r gerddi a’r coetiroedd sy’n amgylchynu Castell Penrhyn.

O ddilyn y llwybr sy’n arwain dan ganghennau’r coed derw hynafol, mae modd cael golygfeydd gogoneddus o Eryri ac arfordir y gogledd.

Plas yn Rhiw, Pen Llŷn

Bob gwanwyn, mae clychau’r gog yn gorchuddio llennyrch y coetir yn yr ardd gysgodol hon, lle mae golygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion.

Yn ystod mis Mai, bydd y berllan yn adfywio a bydd mwy na 130 o goed yn blodeuo.

Mae’r gog wedi cael ei gweld ym Mhlas yn Rhiw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.


Y canolbarth

Llanerchaeron, Ceredigion

Mae modd cerdded trwy’r goedwig wrth ymyl Afon Aeron a dotio at harddwch clychau’r gog, cyn mynd i’r Ardd Furiog i fwynhau arddangosfa o goed ffrwythau blodeuol.

Mae mwy na 60 o fathau gwahanol o goed afalau yn tyfu ar hyd ochr y lawntiau ac yn dringo’r waliau, pob un â’i siâp unigryw ei hun.

Mae lle i gredu bod rhai o’r coed gwyntyllaidd hynafol oddeutu 200 oed.

Mae modd gwylio gwenyn yn casglu paill o’r blagur sydd newydd agor yno.

Castell a Gardd Powis, Y Trallwng

Ewch i gefnen y goedwig gyferbyn â’r castell ac mae modd cael golygfeydd godidog a chipolwg ar rywfaint o glychau’r gog ymhlith y coed derw mawr, y rhododendronau a’r coed ecsotig.

Yn yr Ardd Edwardaidd Ffurfiol, mae coed afalau gafodd eu plannu gannoedd o flynyddoedd yn ôl gan yr Arglwyddes Violet, Iarlles Powis, yn cynnig fflach o flodau pinc llachar.

Tua diwedd mis Mai, mae modd mynd am dro ar hyd yr Adardy i edmygu’r wisteria.


Y de

Coed y Bwnydd, Sir Fynwy

Mae cysgod brith, adar yn canu a phersawr llesmeiriol clychau’r gog yn golygu bod tirwedd fryniog y fryngaer hon o’r Oes Haearn yn parhau i fod yn hafan i bobol a bywyd gwyllt.

‘Coed y bonedd’ neu ‘goed yr uchelwyr’ yw ystyr Coed y Bwnydd, ac mae’r arddangosfa flynyddoedd o glychau’r gog yn ychwanegu fflach o liw at safle archaeolegol pwysig sydd eisoes yn hardd.

Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro

Mae Colby yn llawn lliw drwy gydol y flwyddyn, ond yn ystod mis Mai y blodau lliw fioled sy’n serennu.

Mae modd mynd am dro trwy Goedwig y Gorllewin i fwynhau’r arddangosfeydd yn y dyffryn cudd, tawel hwn.

Yn ‘Llannerch yr Wybren’ ym mhen uchaf y goedwig, mae modd pwyso yn erbyn boncyff coeden a syllu ar y cymylau’n ymlwybro ar draws yr awyr.

Tua diwedd mis Mai, mae modd gweld blodau gwyn mawr siâp sêr ar y merysbren yn yr Ardd Furiog.

Dinefwr, Llandeilo

Bob gwanwyn, caiff coetiroedd y parcdir yn Ninefwr eu carpedu â miloedd o glychau’r gog.

Mae modd mynd am dro trwy’r parc ceirw canoloesol i chwilio am glychau’r gog yn llechu rhwng y coed hynafol, a gwrando am fywyd gwyllt o wahanol fathau o fewn y parcdir hynafol, yn cynnwys cnocellau.

Mae Llwybr y Gwartheg yn lle gwych i weld clychau’r gog ac i chwilio am fuches hynafol y Gwartheg Parc Gwyn ar hyd y ffordd.

Gerddi Dyffryn, Caerdydd

Mae naws y gwanwyn yn fyw o hyd yng Ngerddi Dyffryn, a bydd blodau coed gellyg, afalau a bricyll yn gorchuddio’r coed ffrwythau yn y Gerddi Llysiau.

Cyn bo hir, bydd Wisteria yn rhaeadru i lawr y colofnau yn yr Ardd Bompeiaidd sydd newydd ailagor.

Mae’r Ardd Goed 22 erw yn frith o glychau’r gog glas a gwyn sy’n llechu yng nghysgod brith y casgliad eang o goed ecsotig a brodorol.

Tŷ Tredegar, Casnewydd

Mae modd chwilio am glychau’r gog hwnt ac yma yng Ngardd y Berllan yn Nhŷ Tredegar.

Caiff y berllan hon ei chynnal mewn partneriaeth â Growing Space, sef elusen iechyd meddwl gofrestredig yng Nghasnewydd.

Mae perllan yn llawn coed afalau blodeuol a llwybrau cudd yn aros am ymwelwyr yn yr ardd fwyaf o blith y tair gardd ffurfiol yn Nhredegar.

Yn yr Orendy, cewch weld gwahanol fathau o goed ffrwythau yn blodeuo’n fendigedig – mae’n hysbys eu bod nhw wedi cael eu tyfu yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion

A hithau’n Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion, mae Gweinidog Materion Gwledig Cymru wedi atgoffa pobol o’r hyn fedran nhw ei wneud i ddiogelu planhigion a choed rhag plâu a chlefydau.

Dangosa arolwg newydd bod y rhan fwyaf o bobol Cymru’n dweud bod diogelu planhigion a choed yn bwysig iddyn nhw, ond mai dim ond 23% oedd yn mynd ati i chwilio am wybodaeth am blâu a chlefydau..

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion yn gyfle gwych inni gyd ystyried sut y gallwn weithredu i ddiogelu’n planhigion a’n coed rhag plâu a chlefydau.

“Mae yna rai ffyrdd syml o wneud hynny, fel peidio â dod â phlanhigion a hadau yn ôl o wyliau tramor. Mae’n bwysig hefyd sicrhau ein bod ni i gyd yn ceisio dilyn mesurau bioddiogelwch fel glanhau ein hesgidiau ar ôl mynd am dro yn y goedwig.

“Mae’n bwysig rhoi gwybod i’r awdurdodau am unrhyw blâu neu glefydau sy’n cael eu gweld ar blanhigion a choed mewn gerddi neu allan yn yr awyr agored. Gellir gwneud hynny drwy Tree Alert neu Borth Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig.

“Mae planhigion a choed yn bwysig, ond rydyn ni’n gwybod eu bod mewn perygl. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth helpu i sicrhau ein bod yn eu diogelu.”