Cymru ddylai elwa yn sgil datblygiadau ar Stad y Goron, yn ôl Cwnsler Cyffredinol y wlad, sydd wedi dweud wrth golwg360 ei fod am weld y cyfrifoldeb dros y tir yn cael ei ddatganoli.

Ar hyn o bryd, mae’r elw sy’n cael ei wneud ar diroedd Stad y Goron yng Nghymru a Lloegr yn mynd tuag at Drysorlys y Deyrnas Unedig.

Llywodraeth San Steffan sydd â’r cyfrifoldeb dros y stad hefyd, ond mae Mick Antoniw, Aelod Llafur o’r Senedd dros Bontypridd, yn credu y dylid trosglwyddo’r pwerau hynny i Lywodraeth Cymru.

Mae Stad y Goron yn cynnwys rhannau o diroedd Cymru, ynghyd â gwely’r môr yn ymestyn allan am ddeuddeg milltir.

O gael rheolaeth dros y môr, byddai modd ei ddefnyddio ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy wynt a’r môr.

“Ar y funud, un o’r asedau mwyaf sydd gan Gymru yw’r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr,” meddai Mick Antoniw wrth golwg360.

“Beth sy’n bwysig yw fod y gwaith a’r buddsoddiad mae Llywodraeth Cymru’n ei roi tuag at y datblygiad hwnnw, yr ased Cymreig hwnnw all arwain at hunangynhaliaeth a hyd yn oed bod ynni adnewyddadwy dros ben, yn arwain at elwon a buddion i gronfeydd Cymru yn hytrach na Stad y Goron a Llywodraeth ganolog y Deyrnas Unedig.

“Dylai fynd at gronfeydd Cymru.

“Rydyn ni’n ei weld fel ased.

“Mae Stad y Goron yn cael ei rheoli yng Nghymru a Lloegr gan Senedd [San Steffan], gan gomisiwn.

“Yn yr Alban, mae hyn wedi cael ei ddatganoli ac yn gyfrifoldeb ar weinidogion yr Alban.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’r un mor bwysig bod hyn yn digwydd yng Nghymru.

“Mae cyfrifoldebau dros lawer o faterion yn ymwneud â chynhyrchu ynni a’r amgylchedd wedi’u datganoli i ni.”

‘Rheolaeth fwy effeithiol’

O ddatganoli’r cyfrifoldeb, byddai’n golygu bod y tiroedd a’r moroedd yng Nghymru sy’n perthyn i Stad y Goron yn cael eu rheoli’n fwy effeithiol ac effeithlon, ac yn cyd-fynd yn well â pholisi Llywodraeth Cymru, yn ôl Mick Antoniw.

“Mae gennym Femorandwm o Ddealltwriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati, ond dw i’n meddwl bod hyn yn rhywbeth y dylai fod o fewn polisi Llywodraeth Cymru’n benodol,” meddai.

“Hefyd, o ran yr arian posib y gellir ei godi yn sgil cynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy wynt ar y môr mae’n rhywbeth y dylai fynd i Gymru. Cymru ddylai gael y budd yn sgil hynny.

“Mae’n ymwneud â’r cynllunio hirdymor ar gyfer y newid trywydd rydyn ni’n ei chymryd fel gwlad o ran ynni, a gwneud yn siŵr bod yr holl asedau naturiol sydd gennym ni’n gallu cael eu trefnu a’u cydlynu’n iawn o fewn polisi Llywodraeth Cymru ac nad ydy’r buddion yn mynd i unman arall.”

‘Newid sylweddol gyda newid llywodraeth’

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, hefyd wedi bod galw heddiw (dydd Mawrth, Mai 9) am ddatganoli Stad y Goron i Gymru, gan ddweud y byddai’n rhoi mwy o lais i Gaerdydd wrth wneud penderfyniadau ariannol.

Awgryma hefyd y byddai modd defnyddio’r tir i gynnig gwell diogelwch ynni i Gymru, a gwella’r argyfwng costau byw.

Mae Liz Saville Roberts wedi gofyn i Mick Antoniw a’r Blaid Lafur yng Nghymru sicrhau bod Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Brydeinig, yn cynnwys datganoli Stad y Goron i Gymru fel ymrwymiad yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Dw i’n meddwl bod y Blaid Lafur yn glir iawn o ran ein huchelgeisiau, ac mae’r rhain yn argymhellion sy’n mynd mor bell yn ôl â Chomisiwn Silk,” meddai Mick Antoniw.

“Er mwyn i’r Polisi Ynni Gwyrdd weithio, rydych chi angen y capasiti hwn i wneud penderfyniadau lleol, fel y gall Llywodraeth Cymru glymu’u polisi amgylcheddol a’u polisi ynni gyda’r mynediad at yr adnoddau naturiol hyn mewn ffordd gydlynnus, ond hefyd mewn ffordd lle mae’r buddion yn dod yn ôl at bobol Cymru.

“Dw i’n siŵr y bydd newidiadau sylweddol pe bai newid llywodraeth [yn y Deyrnas Unedig].

“Er mwyn llwyddo i wneud hynny, mae’n rhaid i Stad y Goron gael ei datganoli fel ei bod yn dod dan ymbarél Llywodraeth Cymru.”

Cefnogaeth ymysg pobol Cymru

Roedd pôl diweddar gan YouGov, gafodd ei gomisiynu gan YesCymru, yn dangos bod 58% o bobol yng Nghymru’n cefnogi datganoli Stad y Goron i Gymru, o gymharu â’r 19% oedd yn gwrthwynebu.

Er bod y gefnogaeth “ychydig o syndod, yn yr ystyr nad yw llawer o bobol yn ymwybodol o Stad y Goron a’r hyn mae’n ei wneud”, mae Mick Antoniw yn credu y bydd yna fwy o drafod ac ymwybyddiaeth ynglŷn â maint Stad y Goron nawr.

“Pan fyddwch chi’n siarad â phobol am adnoddau naturiol Cymru a’i hasedau, y dylai’r rheiny gael eu rheoli yng Nghymru ac er budd Cymru… mae’n debyg mai dyna beth sy’n peri bod pobol yn ymateb i faterion yn ymwneud â Stad y Goron,” meddai.

“Dros Gymru a Lloegr, mae’n ased sy’n werth £16bn, ac mae’r holl elw ar y funud yn mynd i gronfeydd y Deyrnas Unedig.

“Y realiti yw fod angen i hynny newid, dw i’n meddwl.

“Mae angen datganoli hynny, ac mae angen i’r hyn sy’n digwydd gyda Stad y Goron gyd-fynd yn well dan ymbarél polisi Llywodraeth Cymru.”

Roedd y pôl gan YouGov yn dangos bod 73% o bleidleiswyr Llafur, a 78% o gefnogwyr Plaid Cymru, yn cefnogi datganoli pwerau.

Ymysg pleidleiswyr y Ceidwadwyr Cymreig, roedd y gefnogaeth dipyn yn is (44%).

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y blaid, wedi dweud dro ar ôl tro nad yw pobol Cymru eisiau mwy o “ailwampio cyfansoddiadol”.

Ceidwadwyr yn gwrthwynebu

Ond yn ôl Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, dydy datganoli Stad y Goron “ddim er lles Cymru”.

“Un o’r prif resymau mae Plaid Cymru wedi’u rhoi am fod eisiau datganoli Stad y Goron yw fod yna gymaint o botensial rŵan… i ni yng Nghymru,” meddai.

“Yr hyn nad yw Plaid Cymru’n ei gydnabod yw, diolch i Stad y Goron, y Deyrnas Unedig yw’r ail farchnad ffermydd gwynt fwyaf llwyddiannus yn y byd.

“Gadewch i ni beidio anghofio fod yr Alban wedi ennill datganoli ar dir Stad y Goron ac mae disgwyl iddyn nhw golli £60bn oherwydd busnes a rheolaeth ariannol gwael o ran fferm wynt gafodd ei hadeiladu ar y tir.

“Mae Cymru ar fin bod yn arweinydd byd-eang yn y sector, felly byddai’n ffôl peryglu hynny drwy achosi ansicrwydd trwy ddatganoli.

“Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gydweithio â Stad y Goron.

“Dydy datganoli cyfrifoldebau sy’n cael eu rheoli’n arbennig o dda ddim er lles Cymru.

“A dweud y gwir, byddai datganoli’n hollti’r farchnad ac yn achosi oedi pellach i ddatblygu prosiectau allweddol.”