Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud eu bod nhw’n hynod ddiolchgar i geidwaid adar y sir sydd wedi gweithio’n galed i gadw achosion o’r ffliw adar allan o unrhyw heidiau yn yr ardal.

Daw hyn wrth iddyn nhw rybuddio ceidwaid i barhau’n wyliadwrus.

Daeth mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do i ben yng Nghymru ar Ebrill 18, ond dydy’r clefyd ddim wedi diflannu’n llwyr.

Mae sawl achos mewn awdurdodau cyfagos, sy’n golygu ei bod yr un mor bwysig i geidwaid adar sicrhau mesurau bioddiogelwch trwyadl a pharhau’n wyliadwrus, meddai’r Cyngor.

Er mwyn atal unrhyw glefyd mewn heidiau o ddofednod masnachol neu heidiau iard gefn, mae’n ofyniad gorfodol i holl geidwaid dofednod yng Ngheredigion roi amrywiaeth o fesurau bioddiogelwch ar waith er mwyn lleihau’r risg a lledaeniad unrhyw glefyd, sef yr amddiffyniad gorau.

Dywed y Cyngor Sir fod rhaid cymryd y camau canlynol:

  • diheintio a glanhau dillad ar ôl dod i gysylltiad â dofednod
  • lleihau symudiadau pobol a cherbydau i mewn ac allan o ardaloedd lle mae dofednod
  • glanhau, a chynnal a chadw llety dofednod yn rheolaidd a sicrhau na all adar gwyllt gael mynediad trwy unrhyw dyllau
  • glanhau’r arwynebau caled a’r cyfarpar, er enghraifft yr offer bwydo a’r hyn sy’n dal yr wyau
  • dilyn y gyfradd wanhau gywir ar gyfer unrhyw ddiheintydd sy’n cael ei ddefnyddio
  • lleihau cyswllt rhwng dofednod ac adar gwyllt
  • sicrhau na all adar gwyllt gael mynediad at fwyd na chyflenwad dŵr y dofednod oherwydd gallen nhw eu halogi
  • darparu ardaloedd diheintio ger mynedfeydd ac allanfeydd y mannau lle caiff dofednod eu cadw
  • rheoli cnofilod gan fod llygod a chnofilod eraill yn gallu cario clefydau, felly dylid rhoi system rheoli plâu effeithiol ar waith
  • sicrhau gweithdrefn ddiogel os caiff gwenwyn llygod ei ddefnyddio

Gall cwblhau’r hunanasesiad bioddiogelwch gorfodol helpu ceidwaid i nodi’r mesurau mae angen eu cymryd.

Dylid parhau’n wyliadwrus ac yn ymwybodol o arwyddion o glefyd ffliw adar, ac adar gwyllt marw, meddai’r Cyngor.

Arwyddion o ffliw adar

Mae arwyddion o ffliw adar mewn adar yn cynnwys marwolaeth sydyn, pen chwyddedig, syrthni, adenydd yn disgyn, llusgo’r coesau, sŵn rhuglo/clecian wrth anadlu, twymyn, carthion dyfrllyd.

Gall rhai rhywogaethau fel hwyaid a gwyddau gario’r clefyd heb ddangos unrhyw arwyddion o salwch.

“Rydym yn ddiolchgar i geidwaid adar yng Ngheredigion am gymryd camau i atal lledaenu’r clefyd,” meddai’r Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd.

“Mae dal yr un mor bwysig i ddilyn y mesurau amddiffynnol ac adrodd am unrhyw achosion a amheuir o Ffliw Adar.”

Cofrestru

Rhaid i unrhyw un sy’n cadw mwy na 50 o adar gofrestru eu haid gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Roedd achos newydd o Ffliw Adar H5N1 ger y Drenewydd ym Mhowys ar Ebrill 27, felly mae’r Cyngor yn dweud ei bod hi’n hollbwysig fod ceidwaid yng Ngheredigion yn parhau’n wyliadwrus.

Dylai unrhyw un sy’n canfod neu’n amau bod achos newydd o ffliw adar ffonio APHA neu dîm Diogelu’r Cyhoedd ar unwaith.